Sant ap Ceredig

sant a thad Dewi Sant, ac un o dywysogion Ceredigion
(Ailgyfeiriad o Sandde)

Tad i Dewi Sant, yn ôl y traddodiad, ac un o dywysogion Ceredigion oedd Sant ap Ceredig neu Sandde. Mae'n bosib taw un o feibion iau Ceredig ap Cunedda ydoedd. Honna Rhygyfarch ap Sulien yn ei hanes Buchedd Dewi i Sant ymweld ag ardal Dyfed tua'r flwyddyn 500 ac yno treisio'r lleiain Non, gan roi iddi ei mab Dewi. Gwaith Rhygyfarch, a ysgrifennwyd dros 500 mlynedd wedi i Ddewi farw, yw'r unig ffynhonnell am dras nawddsant Cymru. Mae'r hanesydd Gerald Morgan yn amau'r stori yn ei lyfr Ar Drywydd Dewi Sant.[1]

Sant ap Ceredig
Ganwyd469 Edit this on Wikidata
Man preswylTeyrnas Ceredigion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin neu frenhines, arweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
TadCeredig ap Cunedda Edit this on Wikidata
PartnerNon Edit this on Wikidata
PlantDewi Sant Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ai Cardi oedd Dewi Sant?", Golwg360 (23 Chwefror 2016). Adalwyd ar 18 Medi 2016.
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.