Sandra Fluke
Awdur Americanaidd yw Sandra Fluke (ganwyd 17 Ebrill 1981) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfreithiwr ac ymgyrchydd dros hawliau merched.
Sandra Fluke | |
---|---|
Ganwyd | Sandra Kay Fluke 17 Ebrill 1981 Saxton, Pennsylvania |
Man preswyl | Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfreithiwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, ysgrifennwr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Fe'i ganed yn Saxton, Pennsylvania ar 17 Ebrill 1981. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Cornell, Prifysgol Georgetown, Canolfan y Gyfraith Prifysgol Georgetown a Choleg Ecoleg Dynol Prifysgol Cornell.[1][2][3][4]
Roedd yn wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o'r Blaid Ddemocrataidd.
Daeth i sylw'r cyhoedd am y tro cyntaf, ym mis Chwefror 2012, pan wrthododd aelodau Gweriniaethol o House Oversight and Government Reform Committee ganiatáu iddi dystio i'r pwyllgor hwnnw ar bwysigrwydd mynnu bod cynlluniau yswiriant ar gyfer atal cenhedlu yn ystod trafodaeth ynghylch a ddylai yswiriant meddygol gynnwys mandad atal cenhedlu. Yn ddiweddarach siaradodd â chynrychiolwyr Democrataidd yn unig.[5]
Magwraeth golygu
Mae Sandra Fluke yn ferch i Richard B. Fluke II, gweinidog rhan-amser trwyddedig mewn eglwys Fethodistaidd, a Betty Kay (g. Donaldson).[6][7]
Graddiodd o Ysgol Uwchradd Tussey / Ysgol Iau Mynydd Pennsylvania yn 1999.[8] Yn 2003 graddiodd o Goleg Ecoleg Ddynol Efrog Newydd ym Mhrifysgol Cornell mewn astudiaethau dadansoddi ac astudiaethau ffeministaidd, rhyw a rhywioldeb.[9]
Gyrfa golygu
Cyd-sefydlodd Fluke y glymblaid New York Statewide Coalition for Fair Access to Family Court, a arweiniodd at ddeddfwriaeth yn rhoi mynediad i orchmynion amddiffyn sifil i ddioddefwyr trais partner agos, gan gynnwys dioddefwyr yn eu harddegau a LHDT (LGBTQ).[10][11] Roedd Fluke hefyd yn aelod o Dasglu Llywydd Dinas Manhattan ar Drais yn y Cartref a "nifer o glymbleidiau eraill yn Ninas Efrog Newydd a Thalaith Efrog Newydd a fu'n llwyddiannus yn cynnig gwelliannau polisi a effeithiai ar ddioddefwyr trais yn y cartref," yn ôl gwefan Prifysgol Georgetown. Tra yn Ninas Efrog Newydd, gweithiodd i Sanctuary for Families, sy'n cynorthwyo dioddefwyr trais domestig a masnachu pobl.[12]
Anrhydeddau golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Johnson, Jenna (3 Mawrth 2012). "Sandra Fluke says she expected criticism, not personal attacks, over contraception issue". The Washington Post. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2016.
- ↑ "July 2012 California Bar Examination Pass List". The State Bar of California. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2012.
- ↑ Whitcomb, Dan (3 Mawrth 2012). "Limbaugh apologizes to student for 'insulting' comments". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 6 Mawrth 2012.
- ↑ "Limbaugh sorry for 'slut' comment". Irish Times. 4 Mawrth 2012. Cyrchwyd 6 Mawrth 2012.
- ↑ Rovner, Julie (29 Chwefror 2012). "Law Student Makes Case For Contraceptive Coverage". NPR. Cyrchwyd 3 Mawrth 2012.
- ↑ United Methodist Communications. "Fluke reacts to Limbaugh comment - The United Methodist Church". The United Methodist Church. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-10. Cyrchwyd 2019-07-08.
- ↑ "Betty Fluke Obituary - Saxton, Pennsylvania". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2019-07-08.
- ↑ "Tussey woman at center of Limbaugh storm". The Altoona Mirror. 6 Mawrth 2012.
- ↑ "Sandra Fluke". The Huffington Post. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2012.
- ↑ "Current Public Interest Law Scholars". Georgetown University Law Center. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mawrth 2011. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2016.
- ↑ "Reproductive Health 2012". Association of Reproductive Health Professionals. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2016.
- ↑ "Past Public Interest Grant Recipients". Women Lawyers Association of Los Angeles. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-09. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2012.