Sandy Griffiths

dyfarnwr pêl-droed

Roedd Benjamin Mervyn "Sandy" Griffiths (17 Ionawr 1909 - 21 Ionawr 1974) yn ddyfarnwr pêl-droed Cymreig o Abertyleri. Yn ei fywyd pob dydd roedd yn athro.

Sandy Griffiths
Ganwyd17 Ionawr 1909 Edit this on Wikidata
Abertyleri Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ionawr 1974 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdyfarnwr pêl-droed y gymdeithas Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Gyrfa golygu

Cafodd ei swydd gyntaf fel athro yn Nyfnaint cyn dychwelyd i Gymru i ddysgu yng Nghasnewydd. Dechreuodd ei yrfa fel dyfarnwr ym 1934. O fewn pum tymor fe'i penodwyd yn llumanwr yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr [1]. Wedi'r Ail Ryfel Byd dyfarnodd ei gêm ryngwladol gyntaf rhwng Lloegr a'r Alban ym 1949. Ym 1953 dyfarnodd gêm derfynol Cwpan yr FA (a adnabuwyd fel y Mathews Final ar y pryd). Dyfarnodd rownd derfynol Cwpan Cymdeithas Pêl Droed Cymru ar chwe achlysur.[2]

Cynrychiolodd Griffiths Gymru yng nghystadlaethau Cwpan y Byd fel dyfarnwr ym 1950, 1954 a 1958. Ym 1950 dyfarnodd y gêm agoriadol, ym 1954 bu'n dyfarnu yn y gêm gynderfynol rhwng Hwngari ac Wrwgwái bu hefyd yn ddyfarnwr cynorthwyol yn gêm derfynol rhwng Hwngari a Gorllewin yr Almaen. Ym munudau olaf y gêm gyda Gorllewin yr Almaen yn ennill 3-2, cododd ei luman i ddyfarnu bod Ferenc Puskás yn camsefyll wrth iddo ddanfon y bêl i'r rhwyd.[3]

Ef oedd y Cymro cyntaf i ddyfarnu gêm ryngwladol yn Wembley, a'r Cymro cyntaf i ddyfarnu rownd derfynol Cwpan yr FA a thrwy ei rôl fel dyfarnwr cynorthwyol yn gêm derfynol 1954 ef yw'r unig Gymro i ymddangos mewn ffeinal Cwpan y Byd (hyd yn hyn).

Ym 1958 cyhoeddodd hunangofiant The man in the Middle .[2]

Cyfeiriadau golygu