Ffransis o Assisi

sant Catholig; sylfaenydd Urdd Sant Ffransis
(Ailgyfeiriad o Sant Ffransis o Assisi)

Sant Catholig o'r Eidal a sylfaenydd Urdd Sant Ffransis oedd Ffransis o Assisi (5 Gorffennaf 11823 Hydref 1226).

Ffransis o Assisi
Ffenestr gwydr lliw o Sant Ffransis yn Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion
GanwydGiovanni di Pietro di Bernardone Edit this on Wikidata
24 Mehefin 1182 Edit this on Wikidata
Assisi Edit this on Wikidata
Bu farw3 Hydref 1226 Edit this on Wikidata
Porziuncola, Assisi Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, diacon, religious writer, ysgrifennwr, pregethwr, cenhadwr, clerigwr rheolaidd, Roman Catholic cleric, sefydlydd mudiad neu sefydliad, pilgrim, diwinydd, cyfrinydd, founder of Catholic religious community Edit this on Wikidata
SwyddCustos of the Holy Land, Minister General of the Order of Franciscans, founder of Catholic religious community Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl4 Hydref Edit this on Wikidata
TadPietro di Bernardone dei Moriconi Edit this on Wikidata
MamPica de Bourlemont Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed ef yn Assisi i deulu cyfoethog; roedd ei dad, Pietro di Bernardone, yn ŵr busnes, tra roedd ei fam, Pica Bourlemont, o Ffrainc yn wreiddiol. Yn 1201, ymunodd ag ymgyrch filwrol yn erbyn Perugia, a chymerwyd ef yn garcharor yn Collestrada. Treuliodd flwyddyn fel carcharor rhyfel cyn dychwelyd i Assisi yn 1203. Yn 1204 cafodd waeledd difrifol, ac wedi cael gweledigaeth yn 1205 troes at grefydd. Bu'n byw trwy gardota yn ardal Assisi, yn trwsio eglwysi adfeiliedig a gofalu am wahangleifion.

Yn gynnar yn 1209. clywodd bregeth a newidiodd ei fywyd. Roedd y bregeth ar Mathew 10:9, lle mae Iesu yn dweud wrth ei ddilynwyr am fyned allan heb arian, na hyd yn oed ffon gerdded. Dilynodd Ffransis y gorchymyn, gan deithio o le i le yn droednoeth yn pregethu edifeirwch. Cyn hir, ymunodd ei ddilynwr cyntaf, Bernardo di Quintavalle, ag ef, ac ymhen blwyddyn roedd ganddo unarddeg o ddilynwyr. Aethant i Rufain i ofyn caniatâd Pab Innocentius III i ffurfio urdd grefyddol newydd. Gwrthododd y Pab, ond y noson honno cafodd freuddwyd lle gwelodd ddyn tlawd yn cynnal eglwys adfeiliedig rhag syrthio. Galwodd Ffransis yn ôl a newidiodd ei benderfyniad.

Tyfodd yr urdd yn gyflym. Yn 1219 aeth Ffransis a'r bererindod i'r Aifft, lle roedd ymladd rhwng y Swltan a'r Croesgadwyr. Aeth Ffransis i weld y Swltan Melek-el-Kamel a cheisiodd ei droi at Gristionogaeth, yna aeth ymlaen i Balesteina. Bu farw yn Porziuncola ar 3 Hydref 1226. Gwnaed ef yn sant gan yr Eglwys Gatholig yn 1228.

Chwedlau golygu

Ceir llawer o storïau am Sant Ffransis, yn arbennig am ei gariad at anifeiliaid; ceir llawer o'r rhain yn y Fioretti (Blodau Bychain), a gasglwyd wedi ei farwolaeth. Ymhlith yr enwocaf, mae'r hanesion amdano'n pregethu i'r adar, a gasglodd o'i gwmpas i wrando. Un arall yw'r hanes amdano yn dofi blaidd rheibus oedd wedi bod yn codi arswyd ar drigolion dinas Gubbio.

Gweler hefyd golygu