Santes Cynheiddon

santes Gymreig, merch Brychan

Santes oedd Cynheiddon ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[1]

Santes Cynheiddon
GanwydTeyrnas Brycheiniog Edit this on Wikidata
Man preswylCydweli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Blodeuodd5 g Edit this on Wikidata
TadBrychan Edit this on Wikidata
PlantCymorth Edit this on Wikidata

Cymysgu enwau

golygu

Bu gan dair o ferched Brychan, Ceinwen, Ceindrych a Cynheiddon [1] (neu Cenhedlon) enwau sy'n talfyrru i Cain neu Geinor ac (ambell waith) Ciwa. Cymysgir nhw hefyd gyda Canna ach Tewdwr ap Emyr Llydaw. Mae'r wybodaeth amdanynt wedi cymysgu cymaint fel nad oes modd eu gwahanu'n llwyr. Aeth Ceinwen a Canna i Fôn a cysylltir Cain gyda de-ddwyrain Cymru yn bennaf [2].

De-orllewin Cymru

golygu

Roedd Cynheiddon (neu Geinor, neu Canna), fodd bynnag, yn weithgar yn ne-orllewin Cymru; yn ardal Cydweli, ble mae pentref a elwir Capel Llangynheiddon. Cydweithiodd yn agos gyda Cymorth, a oedd yn ferch neu'n nith iddi.[1][2] Cysylltir hi hefyd gyda Llangain ger aber afon Tywi.[2]

Sedd Canna

golygu

Yn ymyl Llangain mae carreg a elwir 'Sedd Canna' gyda ffynnon gerllaw. Dywedir fod gwyrthiau wedi digwydd yno a bod y dŵr yn gwella pobl a oedd yn dioddef o'r cryd neu waeledd y coluddyn. Arferai'r claf daflu pinnau bach i'r ffynnon, yfed y dŵr, neu ymdrochu ynddo ac eistedd yn y gadair am gyfnod gan gysgu os gellid. Parhaodd y driniaeth am ddyddiau, am bythefnos weithiau. Diflannodd y ffynnon yn y 19g ac mae'r ysgrifen ar y gadair yn amheus ond dywedir fod pant yn y garreg wedi'i greu gan y nifer o gleifion a oedd wedi eistedd arni.[2]

Cysegriadau

golygu

Mae'n debyg fod Llangennech, ger aber yr afon Llwchwr, Llangain ar yr afon Tywi a Llangeinor a Llangan ger Penybont i gyd wedi'u cysegru iddi. Cysylltir hi hefyd gyda Phontcanna a Threganna yng Nghaerdydd ond mae'r llefydd hyn hefyd wedi'u cysylltu gyda'i chwiorydd.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Jones, T.T. 1977, The Daughters of Brychan, Brycheiniog XVII
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Spencer.R. 1991, Saints of Wales and the West Country, Llanerch