Pontcanna
Ardal a chymyned yng Nghaerdydd yw Pontcanna (hen sillafiad: Pontganna). Gall fod ei henw'n cyfeirio at Santes Canna, santes o'r chweched ganrif o dde Cymru.
Math | cymuned, maestref |
---|---|
Poblogaeth | 6,137 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4906°N 3.2022°W |
Cod SYG | W04001002 |
'Pontaganna' - gyda threiglad oedd yr ynganiad byw fel y gwelir yn y sillafiad o 1702 mewn ewyllys ac eto yng nghofnodion Sesiwn Chwarter o 1751.[1] Mae hyn yn dilyn yr un patrwm a: Pontgarreg, Pontgadfan, (capel y Wesleaid yn Llangadfan) a 'Threganna', ond mae 'Pontcanna' wedi hen sefydlu, bellach.
Roedd creu cymuned Pontcanna newydd yn 2016 (rhan o ardal Glan'rafon yn wreiddiol).[2]
Pontcanna gyfoes
golyguMae Pontcanna yn ardal o dai teras o wahanol feintiau a adeiladwyd yn ystod Oes Fictoria. Mae bellach yn un o ardaloedd mwyaf deniadol Caerdydd ac yn cynnwys amryw o swyddfeydd a gwestai. Ar hyd Stryd Pontcanna geir amrywiaeth o gaffes a bwytai.
Lleolwyd pencadlys gyntaf S4C yng Ngerddi Sophia ym Mhontcanna yn 1982. Ceir hefyd siop lyfrau Gymraeg yn y cwarter sef Siop Caban.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Diferion o'r Pwll Coch, gan Dr Dylan Foster Evans; adalwyd 2 Mai 2015
- ↑ Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau) – 2016 Rhif 1155 (Cy. 277) (PDF). Offerynnau Statudol Cymru. 2016.
- ↑ "Siop y Caban, Pontcanna, Tony Bianchi a Chôr Cochion Caerdydd". 13 Gorffennaf 2018.
- Adamsdown
- Caerau
- Castell
- Cathays
- Cyncoed
- Y Ddraenen
- Yr Eglwys Newydd
- Gabalfa
- Glan'rafon
- Grangetown
- Hen Laneirwg
- Llandaf
- Llanedern
- Llanisien
- Llanrhymni
- Llys-faen
- Y Mynydd Bychan
- Pen-twyn
- Pen-tyrch
- Pen-y-lan
- Pontcanna
- Pontprennau
- Radur a Threforgan
- Y Rhath
- Rhiwbeina
- Sain Ffagan
- Y Sblot
- Tongwynlais
- Tre-biwt
- Tredelerch
- Treganna
- Trelái
- Tremorfa
- Trowbridge
- Y Tyllgoed
- Ystum Taf