Sara Yorke Stevenson
Ffeminist a swffragét Americanaidd oedd Sara Yorke Stevenson (19 Chwefror 1847 - 14 Tachwedd 1921) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel anthropolegydd, hanesydd, archeolegydd, eifftolegydd, curadur yn ogystal â'i hymgyrch dros hawliau menywod. Roedd yn un o sefydlwyr Amgueddfa Archaeoleg ac Anthropoleg Prifysgol Pennsylvania ac ysgrifennai'n rheolaid i'r Philadelphia Public Ledger.
Sara Yorke Stevenson | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1847 Paris |
Bu farw | 14 Tachwedd 1921 |
Man preswyl | Philadelphia, Paris |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | anthropolegydd, hanesydd, archeolegydd, eifftolegydd, curadur, swffragét |
Cyflogwr |
Cafodd ei geni ym Mharis ar 19 Chwefror 1847.
Fel ysgolhaig, cyhoeddodd Stevenson lyfrau ac erthyglau ar Eifftoleg a diwylliant materol yr hen Ddwyrain Agos, yn ogystal â chofiant am deyrnasiad Maximilian I o Fecsico. Hi oedd curadur cyntaf Casgliad yr Aifft yn Amgueddfa Penn a chwaraeodd ran bwysig wrth gaffael llawer o'r casgliad. Fel ymgyrchydd hawliau menywod, gwasanaethodd fel llywydd cyntaf y Gymdeithas Rhyddfreintiau Cyfartal (the Equal Franchise Society) a Chlwb Dinesig Philadelphia. Hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Pennsylvania, y fenyw gyntaf i ddarlithio yn Amgueddfa Peabody ym Mhrifysgol Harvard, a'r aelod benywaidd cyntaf o the Jury of Awards for Ethnology yn Arddangosfa Columbian y Byd yn Chicago.[1][2][3]
Magwraeth
golyguRhieni Stevenson oedd Edward Yorke (20 Rhagfyr 1798 hyd at 1868) a Sarah Hanna Yorke, a briododd yn New Orleans, Louisiana ym 1834 ac a symudodd i Baris yn ystod yr 1840au. Daeth y ddau ohonynt o deuluoedd cyfoethog: roedd teulu ei mam yn berchen ar blanhigfa cotwm fawr ac roedd ei thad yn frocer cotwm.
Ganed Sara Letitia Yorke (enw bedydd) yn y Rue de Courcelles ym Mharis ar 19 Chwefror, 1847. Symudodd rhieni Sara yn ôl i'r Unol Daleithiau America pan oedd Sara'n ddeg oed, gan adael eu merched i fynd i ysgol breswyl yn Ffrainc. Bu'n byw ym Mharis o 1858 hyd 1862 dan warcheidiaeth M. Achille Jubinal, a ysbrydolodd ei diddordeb cynnar mewn archaeoleg ac Eifftoleg.[4]
Yn 1862, gadawodd Ffrainc ar long, ac ymfudodd i Fecsico. Yn 1862 symudodd teulu Yorke i Tacubaya, un o faestrefi Dinas Mecsico, yn dilyn llofruddiaeth brawd Sara, Ogden. Ym Mecsico, mynychodd lawer o gynulliadau cymdeithasol a drefnwyd gan Charlotte o Wlad Belg a'i gŵr Maximilian. bu'r cyfnod hwn o ddefnydd iddi mewn llyfr a ysgrifennodd flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn 1867, ymfudodd y teulu eto, i Vermont (UDA), ond bu ei thad farw flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1868, a Sara yn ddim ond 21 oed. Symudodd Sara i Philadelphia i fyw gyda dau o'i hewyrthod a modryb.
Dyfyniad
golyguMae'r dyfyniad canlynol yn dangos aeddfedrwydd Sara yn y cyfnod roedd yn ysgrifennu:
“ | The days of useless martyrdom are over, also those of heroic sacrifice where it is not needed. What we need to do today is not to slaughter men and parties who do not happen to think as we do … but to educate them, teach them to see, to know, to love, to feel, to grow.[5] | ” |
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Gymdeithas Athronyddol Americana am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu
Cyhoeddiadau
golygu- "On Certain Symbols used in the Decoration of some Potsherds from Daphnae and Naukratis, now in the Museum of the University of Pennsylvania," Proceedings of the Numismatic and Antiquarian Society of Philadelphia for 1890–91, 1892.
- "The Tomb of King Amenhotep," Papers on Egyptian Archaeology, 1892.
- "Mr. Petrie's Discoveries at Tel el-Amarna," Science Cyfr. 19; Rhifau 480–482, 510.
- "An Ancient Egyptian Rite Illustrating a Phase of Primitive Thought," International Congress of Anthropology, Memoirs, Chicago, 1894, 298–311.
- "Some Sculptures from Koptos in Philadelphia," American Journal of Archaeology 10 (1895), 347–351.
- "The Feather and the Wing in Early Mythology," Oriental Studies of the Oriental Club of Philadelphia, 1894, 202–241.
- "On the Remains of Foreigners Discovered in Egypt by Mr. W.M. Flinders Petrie, 1895, now in the Museum of the University of Pennsylvania," Proceedings of the American Philosophical Society, Cyfr. XXXV.
- Maximilian in Mexico: A Woman's Reminiscences of the French Intervention. Efrog Newydd, 1899.
- Egypt and Western Asia in Antiquity by Ferdinand Justi, Morris Jastrow Jr., a Sara Y. Stevenson, Philadelphia, 1905.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
- ↑ Dyddiad geni: "Sara Yorke Stevenson". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Sara Yorke Stevenson". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Fowler, Don D.; Wilcox, David R. (2003-09-15). Philadelphia and the Development of Americanist Archaeology (yn Saesneg). University of Alabama Press. ISBN 9780817313128.
- ↑ "Quotations, 1750-1900, from Women at Penn, University of Pennsylvania University Archives". www.archives.upenn.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-23. Cyrchwyd 2018-11-20.