Sarah Edith Wynne
y Gymraes gyntaf i ddod i sylw'r byd fel cantores
Cantores o Gymru oedd Sarah Edith Wynne, Eos Cymru (11 Mawrth 1842 - 24 Ionawr 1897). Hi oedd y Gymraes gyntaf i ddod i sylw rhyngwladol fel cantores.
Sarah Edith Wynne | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mawrth 1842 Treffynnon |
Bu farw | 24 Ionawr 1897 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera |
Arddull | opera |
Math o lais | soprano |
Priod | Aviet Agabeg |
Bywgraffiad
golyguGaned hi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint. Ymunodd â chymdeithas gorawl Treffynnon pan oedd yn naw oed, ac aeth ar daith trwy Gymru i ganu yn ddeuddeg oed. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, aeth i Lerpwl am addysg gerddorol. Rhoddodd ei pherfformiadau cyntaf fel cantores soprano yn Llundain yn 1862, a'r un flwyddyn canodd yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon. Yn 1871, bu ar daith gerddorol i'r Unol Daleithiau. Bu hefyd yn astudio cerddoriaeth yn yr Eidal.
Yn 1875, priododd Aviet Agabeg, bargyfreithwr o Armenia.