Screaming Lord Sutch

canwr Prydeinig, personoliaeth radio, gwleidydd

Cerddorwr roc, gwleidydd a maferic o Sais oedd David Edward Sutch neu Screaming Lord Sutch (Cymraeg: "Yr Arglwydd Sgrechlyd Sutch") (10 Tachwedd 194016 Mehefin 1999). Cafodd yrfa hir fel cerddor dan ei lysenw "Screaming Lord Sutch" a daeth yn adnabyddus i gynulleidfa ehangach fel sylfaenydd yr Official Monster Raving Loony Party a safai mewn nifer o etholiadau ac is-etholiadau yn y 1980au a'r 1990au, yn aml yn erbyn gwleidyddion amlwg.

Screaming Lord Sutch
FfugenwScreaming Lord Sutch Edit this on Wikidata
Ganwyd10 Tachwedd 1940 Edit this on Wikidata
Hampstead Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mehefin 1999 Edit this on Wikidata
South Harrow Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerddor, ymgeisydd gwleidyddol parhaus, canwr Edit this on Wikidata
SwyddArweinydd Monster Raving Loony Party Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolOfficial Monster Raving Loony Party Edit this on Wikidata

Gyrfa wleidyddol golygu

Sefydlodd yr Official Monster Raving Loony Party yn 1983 ac ymladdodd yn is-etholiad Bermondsey. Yn ystod ei yrfa safodd mewn dros 40 etholiad. Roedd yn ffigwr hawdd i'w adnabod yn y cownt etholiadol oherwydd ei ddillad lliwgar. Yn fuan ar ôl iddo ennill rhai cannoedd o bleidleisiau yn etholiad Finchley yn 1983, gan achosi cryn embaras i Margaret Thatcher ar y noson, y codwyd y deposit a delir gan ymgeisgwyr etholiad o £150 i £500. Parhaodd Sutch i sefyll, fodd bynnag, gan ddefnyddio ei enillion o'i gyngherddau roc i dalu am ei ymgyrchoedd tafod-mewn-boch. Bu ar raglen gyntaf y gyfres deledu ddychanol The New Statesman ar ITV - fel ef ei hun - gan ddod yn ail yn ffug etholiad 1987 (o flaen ymgeiswyr Llafur a'r SDP) a welodd Alan B'Stard (cymeriad Rick Mayall) yn cael ei ethol i San Steffan.

   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.