Sefydliad Bevan
Mae'r Sefydliad Bevan, (Saesneg: Bevan Foundation), yn felin drafod Gymreig a sefydwyd yn 2001. Ei bwriad yw cryfhau polisi cyhoeddus ar ôl datganoli. Mabwysiadwyr yr enw fel gwrogaeth i Aneurin Bevan, sylfaenydd y GIG, oherwydd ymrwymiad a rennir i gyfiawnder cymdeithasol, er bod y Sefydliad yn gwbl amhleidiol.[1]
Enghraifft o'r canlynol | melin drafod |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2001 |
Rhanbarth | Merthyr Tudful |
Sefydlwyd y corff gan y gwleidydd Llafur, Dr Hywel Francis oedd yn Aelod Seneddol dros Aberafan rhwng 2001 a 2015.[2] Cyfarwyddwr gyntaf y Sefydliad oedd Victoria Winckler a benodwyd yn 2002. Mae hi hefyd yn gynghorydd ar Gymru i Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree. Mae'n cynhyrchu adroddiadau ac ymatebion i ymgynghoriadau. Cynhyrchir papurau briffio Exchange, cylchgrawn polisi a gwleidyddiaeth sy'n ymwneud â Chymru, ffeithluniau a fideos o’n prosiectau a gweminarau. Lleolir y Sefydliad ym Merthyr Tudful.
Gwaith
golyguMae gwaith ymchwil y Sefydliad yn cwympo o dan 5 prif thema: Democratiaeth, Economi, Amgylchedd, Tlodi, Pobl. Yn 2020-21 bu iddynt gyhoedd 30 adroddiad, mwy na 100 o erthyglau ar-lein.
Ymysg llwyddiannau a nodir gan y Sefydliad mae bod yn:
- allweddol wrth lunio ‘rhaglen flaengar’ Llywodraeth Cynulliad Cymru 2007-11 ac wrth wneud tlodi yn flaenoriaeth i weinyddiaeth 2011-6.
- rhoi cwestiwn trethi newydd, datganoledig i’r arena gyhoeddus a llywio cynigion Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau trethiant newydd yn llywodraeth 2016-21.
Gwaith Ymchwol ar Dai Rhent
golyguYmysg un o'r gwaith ymchwil gan y Sefydliad a ddenodd sylw ar lawr gwlad oedd y gwaith ar sefyllfa tenantiaid a thaai rhent yng Nghymru. Bu'r adroddiad yn yn 2022 yn tynnu sylw at nifer uchel o dai sy'n cael eu gwerthu at ddefnydd Airbnb gan brisio prynwyr lleol tlotach allan o'r farchnad dai.[3] Bu i llefarydd ar yr adroddiad, Steffan Evans, ymddangos mewn sawl sgwrs a chyfweliad cyhoeddus ar y pwnc o brisiau tai a rhai ar rhent.[4]
Ariannu
golyguAriennir y Sefydliad drwy danysgrifiadau a rhoddion. Gwneir hyn gyda chefnogaeth dros 100 o sefydliadau, unigolion yn cefnogi gyda chyfraniadau untro neu reolaidd. Ceir hefyd incwm drwy Ymddiriedolaethau a Sefydliadau allanol megis y Ymddiriedolaeth Joseph Rowntree, Sefydliad Banc Lloyds ac eraill. Cynhyrchir incwm arall drwy ddarparu hyfforddiant a threfnu digwyddiadau, ac ymchwil ar raddfa fach a gomisiynwyd.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "About". Gwefan y Bevan Foundation. Cyrchwyd 16 Mai 2023.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/56061255 , BBC Cymru Fyw, 14 Chwefror 2021.
- ↑ "Ymchwil newydd yn dangos effaith dramatig ar cartrefi i'w rhenti". Gwefan Sefydliad Bevan. 29 Medi 2022.
- ↑ "Cnoi Cil am yr argyfwng tai". Gwefan Sefydliad Bevan. 9 Awst 2021.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Sefydliad (Cymraeg)