Alexander Hamilton
Swyddog milwrol a gwleidydd o Americanwr ac un o Sefydlwyr yr Unol Daleithiau oedd Alexander Hamilton (11 Ionawr 1755 neu 1757 – 12 Gorffennaf 1804)[1] a wasanaethodd yn Ysgrifennydd y Trysorlys o 1789 i 1795, y cyntaf yn y swydd, yn ystod arlywyddiaeth George Washington. Gwasanaethodd yn y Fyddin Gyfandirol yn ystod Chwyldro America, ac efe oedd un o gynrychiolwyr Efrog Newydd yn y Gynhadledd Gyfansoddiadol (1787) ac un o awduron y Federalist Papers (gyda James Madison a John Jay).
Alexander Hamilton | |
---|---|
Portread o Alexander Hamilton a gyflawnwyd wedi ei farwolaeth gan John Trumbull (1806). | |
Ffugenw | Publius |
Ganwyd | 11 Ionawr 1757 Charlestown |
Bu farw | 12 Gorffennaf 1804 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | economegydd, gwleidydd, llenor, person busnes |
Swydd | Ysgrifennydd Trysorlys yr Unol Daleithiau, Delegate to the United States Constitutional Convention |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Ffederal |
Mam | Rachel Faucitt Lavien |
Plant | John Church Hamilton |
Gwobr/au | Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
llofnod | |
Plentyn anghyfreithlon ydoedd a aned yn Charlestown ar ynys Nevis yng ngwladfa Brydeinig yr Ynysoedd Cyferwyntol, yn y Caribî. Albanwr oedd ei dad, ac yr oedd ei fam o dras Brydeinig a Hiwgenot. Cafodd ei amddifadu ym 1768, a chafodd waith yn glerc i gwmni masnach. Aeth i'r Tair Gwladfa ar Ddeg ym 1772 ac astudiodd yng Ngholeg y Brenin (bellach Prifysgol Columbia) yn Ninas Efrog Newydd. Ysgrifennodd nifer o bamffledi, yn ddienw, a ddarllenid gan lawer, yn dadlau dros yr achos chwyldroadol. Wedi cychwyn y rhyfel annibyniaeth, ymunodd Hamilton â'r Fyddin Gyfandirol a brwydrodd yn erbyn y Prydeinwyr yn ymgyrch Efrog Newydd a New Jersey (1776–77). Gwasanaethodd yn gadweinydd i'r Cadfridog George Washington, a chynorthwyodd wrth sicrhau buddugoliaeth drwy warchae ar Yorktown, Virginia (1781). Wedi diwedd y rhyfel annibyniaeth, gwasanaethodd Hamilton yn ddirprwy dros Efrog Newydd i Gyngres y Cydffederasiwn yn Philadelphia ym 1783. Ymddiswyddodd i fod yn gyfreithiwr, a sefydlodd Fanc Efrog Newydd ym 1784. Fodd bynnag, dychwelodd i'r dadlau dros y wladwriaeth newydd ac ym 1786 arweiniodd Gynhadledd Annapolis, gan gyhoeddi Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau i ddisodli Erthyglau'r Cydffederasiwn. Yn yr ymgyrch i gadarnhau'r cyfansoddiad, ysgrifennodd Hamilton 51 o'r 85 o benodau'r Federalist Papers.
Gwasanaethodd Hamilton yn Ysgrifennydd y Trysorlys yng nghabinet yr Arlywydd Washington, ac yn y swydd honno arddelai llywodraeth ganolog gydag arlywyddiaeth bwerus, byddin a llynges gryf, ac economi ddiwydiannol. Dadleuodd bod pwerau goblygedig y cyfansoddiad yn rhoi i'r llywodraeth ffederal yr awdurdod i gydgyfnerthu'r ddyled wladol, i gymryd meddiant o ddyledion y taleithiau, ac i greu Banc Cyntaf yr Unol Daleithiau, a gyllidwyd gan dariff ar fewnforion a threth ar wisgi. Gwrthwynebodd gysylltiadau rhwng yr Unol Daleithiau a llywodraethau'r Chwyldro Ffrainc, a siaradodd o blaid masnachu â'r Ymerodraeth Brydeinig dan delerau Cytundeb Jay. Llwyddodd hefyd i ddwyn perswâd ar y Gyngres i sefydlu Gwasanaeth Llongau Ecséis yr Unol Daleithiau. Gosododd safbwyntiau Hamilton sail ar gyfer y Blaid Ffederalaidd, a wrthwynebwyd gan y Blaid Ddemocrataidd-Weriniaethol dan arweiniad Thomas Jefferson. Cefnogodd Hamilton achos y chwyldroadwyr yn erbyn y Ffrancod yn Haiti, a chynorthwyodd wrth lunio cyfansoddiad y wlad honno.
Wedi iddo ymddiswyddo o'r Trysorlys, gweithiodd Hamilton yn gyfreithiwr a dyn busnes, a bu'n un o ladmeryddion diddymiaeth. Yn ystod y Lled-Ryfel (1798–1800) galwodd am fyddino'n erbyn Ffrainc, a fe'i penodwyd yn uwchfrigadydd ym Myddin yr Unol Daleithiau gan yr Arlywydd John Adams. Fodd bynnag, rhyfel llyngesol a fyddai, a ni dychwelodd Hamilton i faes y gad. Cafodd ei wylltio gan ymateb yr arlywydd i'r argyfwng, a gwrthwynebodd felly ymgyrch Adams i gael ei ail-ethol ym 1800. Yn y diwedd, rhoes ei gefnogaeth i Thomas Jefferson yn yr etholiad arlywyddol, gan ystyried ei wrthwynebydd Aaron Burr yn ddiegwyddor. Ymosododd yn chwyrn ar Burr eto yn ystod ymgyrch yr hwnnw i fod yn llywodraethwr Efrog Newydd ym 1804, ac o ganlyniad cafodd Hamilton ei herio i ornest gan Burr. Ar 11 Gorffennaf 1804 saethwyd Hamilton yn y stumog gan Burr yn Weehawken, New Jersey, a bu farw o'i anafiadau trannoeth yn Greenwich Village, Efrog Newydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Alexander Hamilton. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Medi 2023.