Senna
Mae senna glycosid, a elwir hefyd yn sennoside neu senna, yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin rhwymedd ac i wagio'r coluddyn mawr cyn llawdriniaeth. Gellir gweini'r feddyginiaeth drwy'r genau neu drwy'r rectwm. Yn nodweddiadol mae'n dechrau gweithio mewn munudau o'i weini trwy'r rectwm ac o fewn deuddeg awr o'i weini trwy'r genau.[1] Mae'n garthydd gwannach na bisacodyl neu olew castor.
Enghraifft o'r canlynol | group of chemical entities |
---|---|
Math | glycoside |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sgil effeithiau
golyguMae sgil effeithiau cyffredin senna yn cynnwys crampiau'r abdomen. Nid yw'n cael ei argymell ar gyfer defnydd hirdymor, gan y gallai arwain at broblemau efo gallu'r coluddyn i weithio'n iawn neu broblemau electrolyt[2] Er nad oes dystiolaeth benodol ei fod yn niweidiol wrth fwydo ar y fron, nid yw'n cael ei argymell fel rheol. Nid yw'n cael ei argymell at ddefnydd plant. Gall Senna newid lliw'r wrin yn goch.
Mecanwaith
golyguMae deilliadau Senna yn fath o garthydd ysgogol. Er nad yw ei fecanwaith yn gwbl glir, credir bod senna'n gweithredu trwy gynyddu chwarenlif hylif o fewn y coluddyn mawr[3].
Hanes
golyguMae Senna ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae ar gael fel meddyginiaeth generig ac mae'n gymharol rad. Daw Sennosidiau o'r grŵp o blanhigion Senna. Ar ffurf planhigyn, mae cofnodion o ddefnydd senna fel carthydd yn dyddio o tua 900 AD, ond mae'n debyg bod ei ddefnydd yn llawer hyn[4].
Argaledd
golyguMae Senna ar gael dros y cownter mewn siopau ac archfarchnadoedd cyffredin. Mae a'r gael mewn nifer o ffurf gan gynnwys ffurfia trwy'r genau (hylif, tabledi, gronynnau) a thawddgyffur pen ôl. Mae cynhyrchion Senna yn cael eu cynhyrchu gan wneuthurwyr cyffuriau generig lluosog ac o dan wahanol enwau brand. Mae enwau brand yn cynnwys:
- Ex-Lax Maximum Strength
- Ex-Lax
- Geri-kot
- GoodSense Senna Laxative
- Natural Senna Laxative
- Perdiem Overnight Relief
- Senexon
- Senna Lax
- Senna Laxative
- Senna Maximum Strength
- Pursennid
- Senna Smooth
- Senna-Gen
- Senna-GRX
- Senna-Lax
- Senna-Tabs
- Senna-Time
- SennaCon
- Senno
- Senokot To Go
- Senokot XTRA
- Senokot
- Kayam churna
Cyfeiriadau
golygu- ↑ NHS UK Senna Archifwyd 2018-02-18 yn y Peiriant Wayback adalwyd 10 Mawrth 2018
- ↑ Drugs.Com Senna adalwyd 10 Mawrth 2018
- ↑ NICE/BNF Senna adalwyd 10 Mawrth 2018
- ↑ Clover Leaff Ffarm Herbs Senna adalwyd 10 Mawrth 2018
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |