Mae carthydd yn gyffur a ddefnyddir wrth drin rhwymedd ac i hyrwyddo gwacáu'r coluddion. Mae carthyddion yn cynhyrchu eu heffaith drwy nifer o fecanweithiau[1][2].

Carthydd
Mathpurgative, gastrointestinal agent Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Carthyddion halwyn golygu

Mae carthyddion halwynau wedi eu ffurfio o halen sy'n cynnwys ïonau wedi'i gwefru'n uchel iawn nad ydynt yn croesi pilenni celloedd ac felly maent yn aros y tu mewn i'r lwmen, neu lwybr, y coluddyn. Trwy gadw dŵr trwy rymoedd osmotig, mae carthyddion halwyn yn cynyddu maint cynnwys y coluddyn, yn ymestyn y colon ac yn creu ysgogiad i gywasgu'r cyhyrau, sy'n arwain at ymgarthiad. Ymysg yr halwynau a ddefnyddir yn gyffredin mae sylffad magnesiwm (halen Epsom), magnesiwm hydrocsid (llaeth magnesia), sulfiwm sodiwm (halen Glauber), a tartrad potasiwm sodiwm (halen Rochelle neu bowdr Seidlitz) ..

Meddalyddion golygu

Nid yw'r meddalyddion yn cael eu hamsugno o'r llwybr gastroberfeddol gan hynny maent yn gweithredu i gynyddu swmp y carthion. Mae meddalyddion eraill yn meddu ar weithred glanedydd sy'n cynyddu treiddiad dŵr i'r carthion.

Asiantau iriad golygu

Mae carthyddion iriad lid yn sylweddau sy'n gwisgo'r carthion gyda lipidau llithrig sydd yn rhwystro  dŵr colynaidd fel bod y carthion yn llithro drwy'r colon yn haws. Mae carthyddion iriad hefyd yn cynyddu pwysau'r carthion ac yn lleihau amser cludo'r coluddyn

Gellir defnyddio paraffin hylif (olew mwynol) naill ai fel yr olew ei hun neu fel emwlsiwn.

Carthyddion cyswllt golygu

Mae carthyddion cyswllt yn gweithio'n uniongyrchol ar gyhyrau'r coluddyn, gan ysgogi cyfangiadau megis tonnau ar y cyhyrau sydd yn arwain at ymgarthu. Mae'r fath yma o garthydd yn cynnwys cascara, senna, olew castor, a ffenolffthalin. Ar ôl defnydd rheolaidd mae eu heffeithlonrwydd yn tueddu lleihau gan arwain at yr angen i gael dos gynyddol hyd iddynt ddod yn aneffeithiol. Maent yn ddefnyddiol pan fo angen carthu tymor byr megis cyn llawfeddygaeth neu wedi pwl o salwch.

Asiantau Hyperosmotig golygu

Mae carthyddion hyperosmotig yn  sylweddau syn gwneud i'r coluddion i dal mwy o ddŵr o'u mewn sy'n creu effaith osmotig sydd yn ysgogi gweithred y coluddion. Mae tawddgyffuriau glyserin, sorbitol, a lactulose yn enghreifftiau o'r fath yma o garthydd.

Carthyddion swmp golygu

Mae carthyddion swmp yn gweithio trwy gynyddu maint y carthion, yn rhannol trwy eu gallu i ddenu dŵr. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys methylcellulose a carbocsimethylcellulose, gwm agar a tragacanth, hadau psyllium a ffibr mewn bwyd neu fel atodiad bwyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Britannica - Laxative adalwyd 10 mawrth 2018
  2. NHS UK - Laxative adalwyd 10 mawrth 2018


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!