Senoniaid
Roedd y Senoniaid (neu'r Senones) yn llwyth Galaidd (Celtaidd) oedd yng nghyfnod Iŵl Cesar yn byw yn y diriogaeth sydd nawr yn cynnwys departments Seine-et-Marne, Loiret a Yonne.
Math o gyfrwng | llwyth |
---|---|
Math | Y Celtiaid |
Rhan o | Y Galiaid |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
O 53-51 CC. bu ymladd rhyngddynt a Cesar, wedi iddynt alltudio Cavarinus, oedd wedi ei osod yn frenin arnynt gan Cesar. Yn 51 CC., bygythiwyd y dalaith Rufeinig gan y Senones dan Drappes, ond cymerwyd ef yn garcharor a llwgodd ei hun i farwolaeth. Yn ddiweddarach ymgorfforwyd tiriogaeth y llwyth yn Gallia Lugdunensis. Mae Sens yn cymryd ei henw o'r Senones.
Mae Polybius) yn adrodd hanes cangen o'r Senones a groesodd yr Alpau tua 400 CC. ac ymsefydlu ar arfordir dwyreiniol gogledd yr Eidal o Forlì i Ancona, yn yr hyn a alwai'r Rhufeiniad yn ager Gallicus. Yn 391 ymosodasant ar Etrwria a gosod gwarchae ar Clusium. Apeliodd trigolion Clusium at Rufain am gymorth, ond gorchfygwyd y Rhufeiniaid ym Mrwydr yr Allia yn 390. Aeth y Senones, dan eu pennaeth Brennus, ymlaen i gipio dinas Rhufain ei hun.
Bu ymladd ysbeidiol rhwng y Senones a'r Rhufeiniad hyd 283 CC. pan orchfygwyd hwy gan P. Cornelius Dolabella. Ymddengys iddynt gael eu gyrru allan o'r Eidal.