Ymddangosodd Seren y Dwyrain gyntaf ym mis Hydref 1943, gyda T. Elwyn Griffiths, o Landybie yn olygydd. [1] Cylchgrawn Cymraeg o ddeunydd amrywiol ydoedd, ac i fod yn ddolen gyswllt rhwng sefydliadau Cymreig a'i gilydd ac i gryfhau y cysylltiad rhwng Cymru â'r bechgyn a wasanaethai yn y lluoedd arfog. Fe'i cyhoeddid yn Cairo, prifddinas yr Aifft, o 1943 hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Bu hyn yn symbyliad i sefydlu Undeb y Cymry ar Wasgar yn ddiweddarach, yn 1948.

Mae’r papur ei hun ar gael i’w ddarllen yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgelloedd Prifysgolion Bangor a Chaerdydd.

Darllen pellach

golygu
  • T. Elwyn Griffiths Seren y Dwyrain: Hanes dechreuad y cylchgrawn a’r bywyd Cymreig yn y Dwyrain Canol (Gwasg y Bala, 1955).

Cyfeiriadau

golygu

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato