Sergio Mattarella

Sergio Mattarella (Ynganiad Eidaleg: [ˈsɛrdʒo mattaˈrɛlla]) (ganwyd 23 Gorffennaf 1941) yw Arlywydd yr Eidal ers 31 Ionawr 2015; mae hefyd yn Llywydd-etholedig a barnwr. Bu'n aelod o Lywodraeth yr Eidal rhwng 1983 a 2008, gan wasanaethu fel Gweinidog Addysg y wlad rhwng 1989 a 1990 a Gweinidog Amddiffyn rhwng 1999 a 2001. Yr un flwyddyn, daeth yn farnwr yn Llys Cyfansoddiadol yr Eidal.[2]

Sergio Mattarella
Sergio Mattarella


Deiliad
Cymryd y swydd
31 Ionawr 2015
Rhagflaenydd Giorgio Napolitano

Geni 23 Gorffennaf 1941
Palermo, Sisili
Plaid wleidyddol Partito Democratico
Priod Marisa Chiazzese († 2012) [1]

Etholwyd ef yn Arlywydd ar 31 Ionawr 2015 gyda 665 o bleidleisiau allan o 1009 o bleidleiswyr. Bydd y llw ar 3 Chwefror 2015. Cafodd ei enw am y swydd hon ei gynnig gan y Prif Weinidog Matteo Renzi.[3] Mae'n olynnu Giorgio Napolitano a fu'n Arlywydd am gyfnod o naw mlynedd - y cyfnod hiraf yn hanes Arlywyddiaeth Gweriniaeth yr Eidal. Ei ddatganiad cyntaf fel Arlywydd oedd: "Hed fy meddyliau ar unwaith, ac yn arbennig, i broblemau a gobeithion ein cyd-ddinasyddion."[4]

Bywyd personol golygu

Bu farw ei wraig Marisa Chiazzese yn 2012, a hithau'n fam i dri o'i blant.[5]

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Il Giornale, 1 Chwefror 2015, page 5
  2. "Sergio Mattarella chi è?". Il Post (yn Italian). 29 Ionawr 2015. Cyrchwyd 31 Ionawr 2015.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. PM backs anti-mafia figure for Italy President
  4. Mattarella: «Il pensiero va alle difficoltà e alle speranze dei nostri concittadini»
  5. "Sergio Mattarella: profilo privato di un uomo misurato" (yn Italian). Panorama. 30 Ionawr 2015. Cyrchwyd 30 Ionawr 2015.CS1 maint: unrecognized language (link)

Dolennau allanol golygu

Rhagflaenydd:
Giorgio Napolitano
Arlywydd yr Eidal
31 Ionawr 2015
Olynydd:
deiliad