Sfiha
Sfiha (Arabeg: صفيحة ) neu sfeeha yn ddysgl sy'n cynnwys bara fflat wedi'i goginio â briwgig, gyda choron o gig oen, nionyn, tomato, cnau pîn a sbeisys. Mae'r pryd hwn i'w gael yn draddodiadol yng ngwledydd y Levant, ac mae ganddo gysylltiad agos â manakish a lahm bi 'ajin.
Math | pei, pryd o gig oen |
---|---|
Deunydd | cig oen |
Gwlad | Bilad al-Sham |
Yn cynnwys | cig oen |
Enw brodorol | صَفِيحَة |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Sfiha wedi dod yn boblogaidd ym Mrasil, lle mae'n cael ei adnabod fel esfiha neu esfirra, ar ôl cael ei gyflwyno gan fewnfudwyr o Syria a Libanus.[1][2]
Hanes
golyguMae bara fflat wedi bod ar fyrddau'r Cilgant Ffrwythlon ers cynhanes. Maent wedi cael eu coginio ar arwynebau poeth fel cerrig, plât sajj metel, tabŵn, neu tandoor ers cyn cof. Yn y byd Arabaidd canoloesol, gyda datblygiad y popty neu'r ffwrn, daeth amrywiaeth eang o fara gwastad wedi'u pobi ynghyd â stwffin neu dopiau, gan gynnwys sfiha, a'u lledaenu dros hyd a lled yr Ymerodraeth Otomanaidd.
Prif gynhwysion
golyguMae gan bob teulu eu dewis eu hunain ar beth i'w ychwanegu at y cig. Yn Libanus, y prif gynhwysion yw: cig, winwns, tomatos, cnau pîn, halen, pupur, a chyflasynnau fel sinamon, sumac, neu driog y pomgranad. Mae rhanbarth Baalbek yn arbennig o adnabyddus am ei sfiha.[3] Yn Syria,[4] Palestina,[5][6] a Gwlad yr Iorddonen,[7] caiff y sfiha ei gyda brgoginio yn yr un modd, gyda briwgig neu gig oen, yn ychwanegol at berlysiau a sbeisys, gyda thomatos, winwns a chynhwysion eraill.
Ym Mrasil mae'r Esfihas yn cael eu pobi mewn popty a gallant fod yn fara gwastad wyneb agored tua 4 modfedd mewn diamedr gyda haen o cig ar y top,[8] neu wedi'i blygu i mewn i grwst trionglog. Gellir cael topiau amrywiol, gan gynnwys caws, ceuled, cig oen, cig eidion neu lysiau.
Gweler hefyd
golygu- Rhestr o fara fflat
- Lahmajoun
- Bara tabwn
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gramatica atualizada". Dicionario e gramatica. (yn Portiwgaleg). 2015-09-27. Cyrchwyd 2021-02-26.
- ↑ Karam, John Tofik (14 March 2008). Another Arabesque: Syrian-Lebanese Ethnicity in Neoliberal Brazil. Temple University Press. tt. 127–128. ISBN 978-1-59213-541-7.
- ↑ Saleh, Nada (31 March 2012). New Flavours of the Lebanese Table. Random House. ISBN 978-1-4481-1876-2.
- ↑ "Community profile" (PDF). metrosouth.health.qld.gov.au. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-01-16. Cyrchwyd 2021-02-26.
- ↑ Nasser, Christiane Dabdoub (10 July 2013). Classic Palestinian Cuisine. Saqi. ISBN 978-0-86356-879-4.
- ↑ Kalla, Joudie (3 September 2019). Palestine on a Plate: Memories from my mother's kitchen. White Lion Publishing. t. 32. ISBN 978-0-7112-4529-7.
- ↑ Guides, Insight (1 February 2018). Insight Guides Jordan (Travel Guide eBook). Apa Publications (UK) Limited. ISBN 978-1-78671-396-4.
- ↑ Roberts, Yara Castro (2 May 2009). The Brazilian Table. Gibbs Smith. t. 186. ISBN 978-1-4236-0814-1.