Stribyn o ddeunydd lled-galetsyth sy'n cael ei wisgo o dan y droed i lithro dros eira yw sgi. Gryn dipyn yn hirach o ran hyd nag o led ac fel arfer mewn parau, mae sgïau yn cael eu cysylltu i esgidiau sgïo gan ddefnyddio rhwymau sgïo, gyda sawdl rydd, wedi'i chloi neu wedi'i chysylltu yn rhannol. I ddringo llethrau, gall crwyn sgïo (a wnaed yn wreiddiol o ffwr morloi, ond nawr o ddeunyddiau synthetig) gael eu cysylltu i ochr waelod y sgi.

Sgi
Enghraifft o'r canlynolcategori o gynhyrchion Edit this on Wikidata
Mathoffer chwaraeon, dull cludiant, offer ar gyfer sgïo ac eirafyrddio Edit this on Wikidata
Yn cynnwysski tip Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Casgliad o wahanol fathau o sgïau alpaidd, gyda rhai traws-gwlad a telemarc ar y chwith

Roedd sgïau wedi'u bwriadu yn wreiddiol i hwyluso teithio dros eira, ond maen nhw bellach yn cael eu defnyddio yn bennaf fel gweithgaredd hamdden wrth sgïo.

Daw'r gair sgi o'r Hen Norwyeg skíð sy'n golygu "pren hollt", "brigyn" neu "sgi".[1] Mae'r gair yn dal i gael ei ddefnyddio mewn Norwyeg Fodern i gyfeirio at goed tân sydd wedi'i hollti a choed ar gyfer adeiladu.[2][3] Mewn Norwyeg mae'r gair yn cael ei ynganu [ˈʃiː]. Mewn Swedeg, iaith arall a esblygodd o'r Hen Norwyeg, y gair yw skidor.

Cafodd y sgïau pren hynaf yn y byd eu darganfod mewn mannau sydd bellach yn cael eu hadnabod fel Rwsia (tua 6300–5000 CC), Sweden (tua 5200 CC) a Norwy (tua 3200 CC).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Merriam-Webster's Dictionary
  2. Aasen, Ivar (1950): Ordbog over det norske Folkesprog. Kristiania: Carl C. Werner.
  3. Karlsen, Edgar (1993). Lærebok i lafting. Oslo: Universitetsforlaget.
  4. Bays, Ted (1980) Nine Thousand Years of Skis: Norwegian Wood to French Plastic US National Ski Hall of Fame Press