Sgwrs:Ac Eto Nid Myfi (drama lwyfan)

Sylw diweddaraf: 1 mis yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Erthygl wrthrychol, niwtral a hawlfraint

Erthygl wrthrychol, niwtral a hawlfraint

golygu

@Paulpesda: haia a diolch am hon! Mae gennym yr hawl i gynnwys dyfyniadau, ond ddim gormod, neu byddwn yn mynd yn groes i hawlfraint y gwaith. Os yw'r dyfyniad yn cynnwys barn - iawn, dim problem, ond dylai gweddil y testun fod yn ddiduedd (dwi'n meddwl ei fod yma). Y ffordd rownd hyn yw fod y testun ar y cyfan yn wrthrychol, yn gosod y ffeithiau - hy aralleirio rhan o'r hyn sydd mewn dyfynodau. Does dim hawlfraint ar ffeithiau, ond rhaid bod yn ofalus yn y drefn gan fod hawlfraint ar restr! Twp, ie, ond dyna ni: mae llawer o ddeddfau hawlfraint yn dwp! Os na chei gyfle i ailbobi hon mi driai wneud hynny mewn chydyg ddyddiau. Dw i'n meddwl ei bod yn iawn i'r erthygl hon gynnwys pob agwedd o Ac Eto Nid Myfi, gan gynnwys y gwaith ei hun, yr argraffiad cyntaf a dilynnol, y ffilm (er bod erthygl (gwta!) arall ar honno), ac wrth gwrs y perfformiadau. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:26, 3 Hydref 2024 (UTC)Ateb

Diolch @Llywelyn2000 Cytuno. Diogi a cheisio creu erthygl heb ddarllen y ddrama oedd y bai! Mae hi yma yn rwla, ond methu rhoi'n llaw arni ar y funud! Mi ddaw! Do, sylwes i fod y dudalen wreiddiol yn sôn am y "ffilm" ond drwy symud honno i Ac Eto Nid Myfi (drama deledu) nesh i obeithio creu tudalen newydd o dan unai Ac Eto Nid Myfi (drama) neu dim ond Ac Eto Nid Myfi ond mi gefais drafferth efo'r arall-gyfeirio! Felly setlo ar hon! Croeso iti newid ei theitl, os mynni. Dwi wedi sylwi bod problem go sylweddol genno ni efo enwau dramâu Saesneg sydd ynghlwm wrth y ffilm yn hytrach na'r ddrama wreiddiol! Felly beryg y bydd na gryn dipyn o symud, wrth fynd ymlaen! A r nodyn arall, oes gan Wicipedia fynediad i wefan adnoddau Y Coleg Cenedlaethol? Dwi'n gweld bod y ddrama deledu sef addasiad o'r ddrama hon ar gael i'w gwylio ar eu gwefan, ond dwi methu cael mynediad i'w gweld. Wedi anfon i ofyn. Wedyn fedrai gwblhau erthygl honno hefyd! Diolch. Paulpesda (sgwrs) 18:00, 3 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Fantastig! Erthygl dda - diolch i ti am dy waith; mae wedi codi WP i lefel uwch ac wedi llenwi twll anferthol oedd yn bodoli. Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:26, 10 Tachwedd 2024 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Ac Eto Nid Myfi (drama lwyfan)".