Sgwrs:Cabo Verde

Sylw diweddaraf: 5 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Cymreigio'r enw

Dolen wallus

golygu

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 03:28, 2 Mehefin 2012 (UTC)Ateb

Cymreigio'r enw

golygu

Os ydym am Gymreigio'r enw mae 'Penrhyn Verde' yn anghywir, yn fy marn i, gan fod 'Cabo Verde' yn golygu 'Penrhyn Gwyrdd' yn Gymraeg - h.y. verde='gwyrdd' ('Cab-Glas' sy gan y wici Llydaweg, 'Cap Vert' yn Ffrangeg, ayyb). Rhyw hanner cyfieithiad sy gennym felly. Cyn newid chwaneg a chreu categori(au) newydd dwi'n cynnig symud hyn o 'Penrhyn Verde' i 'Penrhyn Gwyrdd'. Anatiomaros (sgwrs) 23:59, 29 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb

O sbio'n fanwl: 'Cerdd Cymru' (!) ydy ffynhonnell y sillafiad; gweler Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg, a'r ddolen yma. Cytuno. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Llywelyn2000 (sgwrscyfraniadau) 07:25, 30 Rhagfyr 2014
LOL! Penrhyn Gwyrdd amdani felly. Anatiomaros (sgwrs) 00:08, 31 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb
Neu 'Penrhyn Glas' efallai? Wna i adael o tan y Flwyddyn Newydd - digon o bethau eraill i'w wneud heno beth bynnag. Anatiomaros (sgwrs) 00:13, 31 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb
Penrhyn Pinc?! Neu ei adael yn y gwreiddiol, gan mai Ffrangeg yw'r iaith! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:23, 31 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb
Penrhyn Piws? Mae 'na ddadl gref dros gadw at yr enw brodorol (Portiwgaleg, gyda llaw) ond ar y llaw arall mae'n ymddangos, o edrych ar y dolenni wici, fod pob iaith arall yn ei gyfieithu. Hmmm. O wel, ceiff aros am rwan; falla bydd gan bobl eraill sylwadau hefyd. Anatiomaros (sgwrs) 23:35, 1 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Cymreigiad o'r Saesneg Cape Verde (yn hytrach nag un uniongyrchol o'r Portiwgaleg Cabo Verde) yw Penrhyn Verde hyd ag y gwela i. Dwy ddim yn gweld problem gyda rhoi enw brodorol pan mae pob iaith arall yn cyfieithu; dyna a wnes i gyda Cappella Sistina. Dydy'r dudalen Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg ddim yn nodi ffynhonnell ar gyfer yr enw Penrhyn Verde a ddefnyddir gan Wicipedia. Ham II (sgwrs) 13:45, 3 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Does dim llawer o wahaniaeth gen i pa un gawn ni, 'Cabo Verde' neu '(Y) Penrhyn Gwyrdd', ond yn sicr mae angen cael un o'r ddau yn lle "Penrhyn Verde". Anatiomaros (sgwrs) 01:23, 4 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
@Ham II - sbia eto - cyfeiriad rhif 9 (colofn 4): cyfeiriad digon salw, fel dw i'n nodi uchod. Cymreigio'r enw yn hytrach na defnyddio'r gwreiddiol ydan ni'n ei wneud gan fwyaf gydag enwau gwledydd; dyna mae Geiriadur yr Academi yn ei wneud hefyd. Gydag enwau dinasoedd, Ham, defnyddio'r gwreiddiol yr ydan ni, bron yn ddieithriad. Ond y tro hwn, gan fod y Cymreigiad yn anghywir (gweler sylw cyntaf Anatiomaros) a bod llais yn ei erbyn, beth am droi nol i'r gwreiddiol? Dyna felly fy nghynnig. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:20, 4 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Sori, Llywelyn2000, rydych chi'n iawn wrth gwrs! Ham II (sgwrs) 11:55, 4 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Pwynt pwysig: mae llywodraeth y wlad yn mynnu, ers 2013, taw "Cabo Verde" yw enw'r wlad ym mhob iaith. Gwnaeth llywodraeth Côte d'Ivoire datganiad tebyg yn y 1980au. Mae Golwg360 yn defnyddio "Cape Verde", ac "Y Draeth Ifori" neu'r "Arfordir Ifori". Nid oes cytundeb gan sefydliadau, cyfryngau a chyhoeddwyr Saesneg, e.e. mae'r BBC a'r Guardian yn defnyddio "Ivory Coast" tra bo'r Economist, National Geographic a Britannica yn defnyddio Côte d'Ivoire. Mae Britannica hefyd yn defnyddio "Cabo Verde" ac nid "Cape Verde". Ceir sefyllfa debyg gyda "Dwyrain Timor/Timor-Leste". Wrth gwrs, nid yw llywodraethau yn rheoli iaith, ond yn fy marn i mi fydd yn well defnyddio'r enw brodorol "swyddogol" Cabo Verde na'r hanner cyfieithiad "Penrhyn Verde", ac yn sicr nid yr hanner cyfieithiad Saesneg "Cape Verde". —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:54, 4 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Diolch am y sylwadau. Gan nad oes enghraifft o 'Penrhyn Gwyrdd' yn troi i fyny ar y we, ar wahân i bentir o'r enw hwnnw ym Mhen Llŷn, dwi'n tueddu i gytuno, ar y cyfan, mai symud hyn yn ôl i 'Cabo Verde' yw'r dewis cywir (ond sylwer ar y dolenni rhyngwici, er hynny).
Mae 'Côte d'Ivoire' yn fater arall gan fod yr enw(au) Cymraeg yn bod ac yn cael ei ddefnyddio'n bur eang: wfft i farn llywodraeth y wlad felly achos dydyn nhw ddim yn rheoli ieithoedd y byd (a diolch am hynny!). Anatiomaros (sgwrs) 00:39, 5 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Cytuno. Mi ychwanegai o at y rhestr; os nad oes gwrthwynebiad? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:27, 8 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Dwi wedi rhoi'r dudalen yn ol yn y categori Cabo Verde yn lle'r categori coch gan fod neb, mae'n ymddangos, o blaid "Penrhyn Verde". 'Sdim harm mewn aros am ddiwrnod neu ddau cyn symud y dudalen, mae'n debyg, rhag ofn daw goleuni o rywle? Gadael o tan ddydd Sul efallai? Anatiomaros (sgwrs) 02:29, 9 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Consensws barn

Cyrhaeddwyd consensws yma (gweler uchod), mai Cabo Verde yw'r enw a ddefnyddiwn ar Wicipedia. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:11, 22 Mawrth 2019 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Cabo Verde".