Sgwrs:Carnedd Gwenllian

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Rhion in topic Carnedd Gwenllian

Carnedd Gwenllian golygu

Ydym ni am gadw wrth yr hen enw neu newid o? Dwi'n rhagweld 'Carnedd Gwenllian' yn dod yn llawer mwy poblogaidd na 'Garnedd Uchaf', sy'n enw di-ddychymyg braidd. Cynigion? Bydd ar y map o Fedi ymlaen (gyda'r hen enw hefyd). Anatiomaros 14:42, 2 Mai 2009 (UTC)Ateb

Efallai ei newid fis Medi, pan ddaw'n swyddogol? Ar fater arall, mae'r erthygl bresennol yn dweud "Llywelyn Ein Llyw Olaf a'i wraig Elen, a goffeir eisoes, gyda Dafydd ap Gruffudd, yn enwau copaon eraill gerllaw, sef Carnedd Llywelyn, Yr Elen a Carnedd Dafydd". Does dim sicrwydd o hyn - fe allai Carnedd Llywelyn gyfeirio at Llywelyn Fawr a Charnedd Dafydd at Dafydd ap Llywelyn, tra mae ystyr "Yr Elen" yn ansicr. Rhion 06:01, 5 Mai 2009 (UTC)Ateb
Dwi'n deall bydd y seremoni ailenwi yn cael ei chynnal o fewn mis neu ddau. Ac rwyt ti'n iawn am "briodoledd" yr enwau wrth gwrs; meddwl am y rhesymeg dros ei ailenwi oeddwn i ond mae angen egluro'r ansicrwydd. Anatiomaros 15:27, 5 Mai 2009 (UTC)Ateb
Myfi, Lywelyn, a wnaeth hynny neithiwr o fewn eiliadau i'r gofyn.... a daeth Gwenllian yn ôl! Llywelyn2000 21:55, 5 Mai 2009 (UTC)Ateb
Rhyfeddol o sydyn, Llywelyn! Efallai cawn ni wared o'r ailgyfeiriad a symud yr erthygl i'r enw newydd ar ôl y seremoni enwi (sydd i'w chynnal ar y mynydd, dwi'n meddwl - dyna pam mae nhw'n aros am dywydd teg yn lle'r gaeaf bach annifyr sy gennym rwan, mae'n debyg)? Llongyfarchiadau i Gymdeithas Gwenllian, meddwn i! Anatiomaros 22:35, 5 Mai 2009 (UTC)Ateb

Rhaid ir ddau enw cael eu ddefnyddio yma. mae garnedd uchaf yn enw hanesyddol ir copa. enw newydd ydi'r un yma. does ddim cysylltiad ar mynydd yma a gwenllian yn hanesyddol. mae carnedd gwenllian ar y map gyda garnedd uchaf hefyd. Ganredd Uchaf/Carnedd Gwenllian ydir fordd ymalen 86.141.154.241

Diolch am eich sylwadau ar yr enw[au] priodol. Does dim byd wedi cael ei benderfynu yn derfynol eto. Mae'n debyg y byddem yn 'mynd gyda'r lli' ac efallai mai aros i weld os ceiff yr enw newydd dderbyniad eang sydd orau (byddem ni ddim yn dileu'r hen enw fel y cyfryw, beth bynnag fydd enw'r erthygl yn nes ymlaen). Anatiomaros 18:24, 4 Mehefin 2009 (UTC)Ateb

Enw golygu

Pam "Garnedd Gwenllian" yn hytrach na "Carnedd Gwenllian"? Rhion 05:58, 21 Awst 2009 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Carnedd Gwenllian".