Yr Elen

mynydd (962m) yng Ngwynedd

Mae'r Elen yn fynydd yn y Carneddau yn Eryri.

Yr Elen
Yr Elen gan Erwyn Jones
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Uwch y môr962 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1664°N 3.9865°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6738965118 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd57 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaCarnedd Llywelyn Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Enw golygu

Mae tarddiad yr enw yn ansicr. Un awgrym yw fod y mynydd wedi ei enwi ar ôl rhyw "Elen", efallai, os mai Llywelyn ap Gruffudd a roes ei enw i Garnedd Llywelyn, fod "Yr Elen" wedi ei enwi ar ôl ei wraig Eleanor de Montfort. Mwy tebygol yw mai Gelen sydd yn yr enw, yn cyfeirio at y ffordd y mae'r mynydd i weld wedi ei gysylltu ei hun ar ystlys Carnedd Llywelyn, fel gelen ar anifail.

Daearyddiaeth a llwybrau golygu

Saif yr Elen ar grib fechan sy'n gadael prif grib y Carneddau ger Carnedd Llywelyn ac yn arwain tua'r gogledd-orllewin. Mae'n agos iawn at Garnedd Llywelyn, dim ond un cilometr ar hyd y grib, ac fel arfer cyrhaeddir y copa o gopa Carnedd Llywelyn. Mae modd hefyd dringo'r Elen yn uniongyrchol o Gerlan ger Bethesda, gan ddilyn Afon Llafar at droed yr Elen ac yna dilyn llwybr braidd yn aneglur i fyny'r llechweddau. Mae'r ffordd hon braidd yn serth, ond mae rhai o'r ffyrdd i fyny Carnedd Llywelyn yn cynnwys rhannau serth hefyd megis ar lechweddau Pen yr Ole Wen.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu


Y pedwar copa ar ddeg
Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m)  · Garnedd Ugain (1065m)  · Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m)  · Y Garn (947m)  · Glyder Fawr (999m)  · Glyder Fach (994m)  · Tryfan (915m)

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m)  · Carnedd Dafydd (1044m)  · Carnedd Llywelyn (1064m)  · Yr Elen (962m)  · Foel Grach (976m)  · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m)  · Foel-fras (942m)