Carnedd Dafydd

mynydd (1044m) yng Ngwynedd

Mae Carnedd Dafydd yn fynydd yn y Carneddau yn Eryri.

Carnedd Dafydd
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
SirGwynedd, Conwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,044 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.14774°N 4.00084°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6628663049 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd111 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaCarnedd Llywelyn Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Enw golygu

Nid oes sicrwydd pa un o ddau Ddafydd sy'n cael ei goffáu gan yr enw, Dafydd ap Llywelyn, mab Llywelyn Fawr, ynteu Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd. Dywed Terry Marsh nad oes amheuaeth nad Dafydd ap Llywelyn a roddodd ei enw i'r mynydd.

Daearyddiaeth golygu

Mae rhyw 20m yn is na'r mynydd uchaf yn y Carneddau, Carnedd Llywelyn, ond dim ond y mynydd hwnnw a'r Wyddfa sy'n uwch nag ef yng Nghymru (os na ystyrir Carnedd Ugain/Crib y Ddysgl ar yr Wyddfa yn fynydd ar wahan). Saif ar brif grib y Carneddau, gyda Carnedd Llywelyn i'r gogledd-ddwyrain a Pen yr Ole Wen i'r de. Mae'r ffin rhwng Gwynedd a sir Conwy yn mynd tros y copa. Ar ochr ogleddol y grib rhwng Carnedd Dafydd a Charnedd Llywelyn mae creigiau Ysgolion Duon, sy'n ffefrynnau gan ddringwyr.

Llwybrau golygu

 
Copa Carnedd Dafydd, gyda Charnedd Llywelyn yn y cefndir

Mae modd dringo'r mynydd yn uniongyrchol trwy gychwyn gerllaw Tal-y-llyn Ogwen ger pen dwyreiniol Llyn Ogwen a dilyn Afon Lloer hyd at lyn Ffynnon Lloer sydd wrth droed Carnedd Dafydd. Yna gellir dringo i fyny'r llechweddau i'r copa. Y ffordd arferol o'i ddringo, fodd bynnag, yw dringo Pen yr Ole Wen gyntaf, ac yna mae'n hawdd dilyn y grib i gopa Carnedd Dafydd.


Llyfryddiaeth golygu

  • Terry Marsh The summits of Snowdonia (Robert Hale, 1984)


Y pedwar copa ar ddeg
Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m)  · Garnedd Ugain (1065m)  · Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m)  · Y Garn (947m)  · Glyder Fawr (999m)  · Glyder Fach (994m)  · Tryfan (915m)

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m)  · Carnedd Dafydd (1044m)  · Carnedd Llywelyn (1064m)  · Yr Elen (962m)  · Foel Grach (976m)  · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m)  · Foel-fras (942m)