Sgwrs:Chwant balŵnau
Ydy hwn yn bodoli mewn gwirionedd, ynteu ai chwant am rwber ydy o? Fedra i ddim darganfod erthygl debyg mewn unrhyw iaith arall, felly, ydy hyn yn unigryw i ni'r Cymry? Os nad tynnu coes sydd yma, oni fyddai'r ferch yn derbyn MWY o bleser pe bai'r gradures dlawd yn tynnu'r trowsus denim tynn yna oddi amdani? Llywelyn2000 07:20, 22 Awst 2008 (UTC)
- Wn i ddim. Does gen i ddim profiad personol..., ond mae yna erthygl yn Ffrangeg ar y pwnc, a does neb wedi mynegi amheuaeth yno hyd y gwelaf fi. Rhion 07:27, 22 Awst 2008 (UTC)
- Mae'n debyg fod na "baraffiliau" am bopeth bron. Hyd y gwelaf i mae'r erthygl yn ddilys (ac mae'n wahanol, o leia!). Anatiomaros 12:43, 22 Awst 2008 (UTC)
Termau
golyguDiolch am y gwaith gloywi @Gwyddno! Mae sbel ers i mi ddechrau'r erthygl hon :D Tybed oes cynsail gen ti am ddefnyddio'r gair ffetis yn yr ystyr dan sylw? Os oes cynsail digonol, hapus i symud yr erthygl a dileu'r nodyn termau ar y gwaelod - byddai angen gwneud hynny er mwyn cysondeb. Ond yn ôl GPC, "Gwrthrych a addolir oherwydd tybio bod iddo ryw rinwedd cyfareddol neu fod ysbryd yn trigo ynddo" ydy ffetis yn hytrach nag ystyr gyfoes fetish yn Saesneg... GyA hefyd yn awgrymu mai amulet neu rywbeth tebyg yw ffetis a bod angen cyfieithu pethau fel make a fetish of something mewn ffordd arall. Os nad yw ystyr y gair wedi newid felly, gwell newid yn ôl i chwant! Llygad Ebrill (sgwrs) 22:33, 2 Medi 2024 (UTC)
- @Llygadebrill Ie, dyna'r ystyr gwreiddiol yn sicr ond erbyn hyn, dim ond anthropolegwyr sy'n ei ddefnyddio felly (os ydyn nhw, hyd yn oed). Mae'n deg dweud taw'r ystyr arferol erbyn hyn yw'r ystyr rhywiol fel a geir yn https://leathermencymru.com/hafan/ Gwyddno 21:46, 5 Medi 2024 (UTC)