Sgwrs:Cyd-ddealltwriaeth

Latest comment: 2 flynedd yn ôl by Llygadebrill

Intelligence yw deallusrwydd. Awgrymaf 'dealladwyedd' am intelligibility - gweler termau.cymru. Does dim llawer o enghreifftiau cadarn o'r term ar y we, heblaw am rhywbeth fel y ddogfen CBAC yma. --Dafyddt (sgwrs) 18:37, 2 Hydref 2021 (UTC)Ateb

Beth am "cyd-eglurder"? Gweler Sgwrs:Wcreineg#Cyd-eglurder. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 19:13, 2 Hydref 2021 (UTC)Ateb
Efallai - mae Geiriadur yr Academi yn cynnig dau air am 'intelligible' - dealladwy ac eglur. Os oes dwy iaith wahanol yn ddigon tebyg fel bod siaradwyr yn medru deall ystyr y sgwrs, i fi mae 'dealladwy' yn ddisgrifiad fwy amlwg (yn fwy dealladwy!). Mae yna hefyd ystyr arall lle mae rhywun yn cyfathrebu yn yr un iaith ond mewn arddull annealladwy. e.e. gallai arbennigwr siarad am ryw bwnc technegol sy'n gwbl annealladwy i'r person lleyg. Mae eglurder yn awgrymu sefyllfa lle mae dau unigolyn yn siarad yr un iaith ond yn cael trafferth dehongli eu gilydd - efallai am fod gan rywun acen wahanol, neu yn mwmial neu yn siarad ar alwad ffôn/rhyngrwyd gyda ansawdd gwael. --Dafyddt (sgwrs) 21:25, 3 Hydref 2021 (UTC)Ateb
Dw i'n credu bod awduron y gyfrol yma https://www.porth.ac.uk/cy/collection/cyflwyniad-i-ieithyddiaeth (sydd dan drwydded agored gyda llaw!!) wedi ystyried y cwestiwn yma eisoes, wrth drafod Gwirebau Grice ac ati, mae'n nhw'n defnyddio cyd-ddealladwy a cyd-ddealltwriaeth. Mae'r ddau gynnig uchod yn gwneud synnwyr, ond mae'n well mynd gyda'r term sydd wedi ei safoni eisoes - os nad oes gwrthwynebiad, bydda i'n symud y dudalen i Cyd-ddealltwriaeth. O ran awgrym Dafyddt, beth am i ni ddefnyddio'r gair eglur wrth egluro'r term :D? --Llygad Ebrill (sgwrs) 08:18, 22 Hydref 2021 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Cyd-ddealltwriaeth".