Sgwrs:Cyfieithiadau i'r Gymraeg

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Xxglennxx in topic Yr holl faneri


Untitled golygu

I so want to illustrate the article with this photo! Luke 07:09, 21 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Mae'n demtasiwn fawr .... ! Rhion 08:16, 21 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Yr holl faneri golygu

Beth ydy'r rhesymeg tu cefn i'r holl faneri? Yn un peth mae'n gwneud i'r erthygl edrych yn fler, ac mae defnyddio baner i ddynodi iaith yn reit dadleuol.--Ben Bore 12:58, 8 Mawrth 2010 (UTC)Ateb

Cyn newid, mae'n arferiad aros am ychydig wythnosau i bawb gael lleisio barn. 'Da ni'n credu fod y baneri yn help mawr. Ysgol Rhiwabon 15:21, 23 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Dwi'n cytuno y dylem ni gael trafodaeth yn gyntaf, ond dwi'n tueddu i gytuno gyda Ben Bore. Dydy 'iaith' a 'gwlad' ddim o reidrwydd yr un peth. Hefyd, ble mae tynnu'r llinell? Ydym ni am roi baner pob gwlad sydd â thraddodiad o lenyddu yn Saesneg, er enghraifft? Buasai hynny'n golygu cael dwsinau o faneri (e.e. India, Pacistan a'r rhan fwyaf o wledydd y Gymanwlad...). 'Run fath gyda'r Ffrangeg - mae llawer o'r llyfrau Ffrangeg cyfoes dwi'n darllen yn waith awduron o wledydd y Maghreb, er enghraifft. Anatiomaros 15:28, 23 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Dw i ddim yn gweld o gwbl sut mae'r baneri'n help neb, gan eu bod wedi eu dewis ar hap, gyda rhai gwledydd/tiriogaethau wedi eu gadael allan (e.e. ar gyfer Saesneg, ble mae Y Alban, Jamaica, Y Falklands, Seland Newydd....). Oes ydy pobl eisiau gwybopd mwy am yr rieithoedd, fel ble maen't yn cael eu siarad, yna gelli'r clicio ar y ddolen at erthyg y iaith.
Mae yna lot fawr o wybodaeth ar er erthygl yma, a diolch i'r sawl sy'n ei greu, ond mae'r baneri'n ychwnaegu 'clutter' di-angen yn fy marn i.--Ben Bore 13:18, 24 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Ar ol llawer o drafodaeth ryden ni i gyd rwan yn cytuno; does dim angen y baneri. Ysgol Rhiwabon 12:44, 25 Mawrth 2010 (UTC)Ateb

Cytuno. Cael gwared â nhw. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:44, 19 Mai 2010 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Cyfieithiadau i'r Gymraeg".