Sgwrs:Cymdeithas y Cymod

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Tystiolaeth


Untitled golygu

Arfon: mi fasa'n wych creu is-benawdau bob hyn a hyn, er mwyn y llygad yn bennaf. Fedri di? Llywelyn2000 23:28, 27 Hydref 2008 (UTC)Ateb

Mae'n braf cael yr erthygl yma, ond mae angen bod yn fwy niwtral hefyd (polisi'r wicipedia; dim mynegi barn amlwg, waeth be di'r pwnc). Dwi wedi rhoi rhai dolenni wici amlwg i mewn a newid "ni" i "eu", ond mae mwy o waith i'w wneud. Anatiomaros 00:26, 28 Hydref 2008 (UTC)Ateb
Mae testun wedi ei gopio oddi ar wefan y gymdeithas. (e.e. [1], [2]) Dyna pam dwedai "ein cymdeithas" a.y.y.b. Yn anffodus, does dim gyda ni unrhyw prawf bod y defnyddiwr sy wedi creu'r erthygl fan hyn yn berchennog yr hawlfraint.
Yn newid i'r Saesneg rwan dros gyflymder... I think the best way to ensure that the copyright owner really gives permission for the text to be released under the GFDL is to ask them to put a copying statement to that effect on the Fellowship's own website -- only then can we be really sure that it's okay to use the text on Wicipedia on that basis. If this is not done soon, then we ought to delete it. I would suggest we give a deadline of a week - do others agree? I'll leave a note on the user's page to alert him/her to this discussion. Alan 10:12, 28 Hydref 2008 (UTC)Ateb
Anatiomaros - dwi wedi gofyn i Arfon ei hail sgwennu'n wrthrychol; mae am wneud hynny.
Alan: this article is bona fide. Mae hi'n erthygl bwysig. Mewn sgwrs gydag Arfon (sy'n swyddog o'r gymdeithas) mae'n ymestyn yr hawlfraint i Wici. Ydy e'n dal i orfod rhyddhau'r testun o ran y GFDL? Llywelyn2000 10:30, 28 Hydref 2008 (UTC)Ateb
Mae Arfon wedi ymateb i mi trwy ebost, i ddweud mai e yw Ysgrifennydd y gymdeithas. Does dim gen i unrhyw reswm i anghredu hynny, ond mae unrhywun yn gallu dweud ei fod yn swyddog, felly mae'n rhaid i ni gael prawf. Wna i anfon e-bost at y cyfeiriad dangosedig ar [3], i ofyn am ategiad. Os ydynt yn ei ategu, bydd popeth yn iawn. Sori am fy mod yn stick in the mud, ond rhaid sicrhau osgoi problemau cyfreithiol. Alan 11:18, 28 Hydref 2008 (UTC)Ateb
Dwi wedi cael ymateb i'r e-bost a wnes i anfon i'r cyfeiriad swyddogol, sydd yn ategu bod popeth yn ddilys. Da iawn. Alan 15:32, 28 Hydref 2008 (UTC)Ateb
Mae gen ti lygad fel barcud Alan! Llywelyn2000 19:14, 28 Hydref 2008 (UTC)Ateb

Cysondeb golygu

Ydy'r frawddeg hon yn gyson, Rhodri:

Erbyn heddiw, mae wedi datblygu i fod yn fudiad aml-ffydd o heddychwyr gyda chenhadaeth ysbrydol i atal gwrthdaro a chreu cyfiawnder ar sail eu cred yng ngrym cariad Duw.

Llywelyn2000 07:52, 30 Hydref 2008 (UTC)Ateb

Tystiolaeth golygu

A oes tystiolaeth i gyfiawnhau brawddegau megis:

Trwy gyfnod anodd y Rhyfel Mawr fe ledodd yr argyhoeddiad o nerth Cymod Crist a'i berthnasedd i'n byd ni...

Rwy'n siwr bod. Llywelyn2000 07:57, 30 Hydref 2008 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Cymdeithas y Cymod".