Sgwrs:Senedd Cymru

(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
Latest comment: 10 o flynyddoedd yn ôl by Blogdroed


Melyn golygu

Rwyf wedi gofyn y cwestiwn ar y dudalen am Etholaeth Ynys Môn, ond dwi ddim yn deall pam fod Plaid cymru yn cael ei dynodi gyda blwch melyn yn yr holl erthyglau am etholiadau - mae'n siwr gen i mai gwyrdd ddylai PC fod - fel sydd yn wir yn y graffeg yn dangos y siambr yn yr erthygl yma. Mae'n hollol hurt dynodi PC yn felyn yn fy marn i --Blogdroed (sgwrs) 17:48, 19 Hydref 2013 (UTC)Ateb

A dweud y gwir dw i ddim yn cofio trafodaeth am hyn ar wici. Newidiodd Plaid Cymru eu lliwiau (!) 2006 - 2008 pan fabwysiadwyd y Meconopsis Cambrica (y pabi Cymreig) ac yn ei sgil - y lliw aur, fel y gwnaeth yr SNP tua'r un pryd. Mae hyn yn beth rhyfeddol, yn fy marn i gan mai dyma liw'r Rhyddfrydwyr am ddegawdau. Dw i wedi chwilio am y sgwrs am hyn ar en - ac wedi methu; mae'r erthygl yma ar hanes Plaid Cymru'n cadarnhau hyn: gweler gwaelod y wybodlen a'r rhan yma: Additionally, the party's colours were changed from the traditional green and red to yellow, while the party logo was changed from the 'triban' (three peaks) used since 1933 to a yellow Welsh poppy (Meconopsis cambrica).. Mae'r erthygl yma ar wefan y BBC, fodd bynnag, yn fwy crafog: Collwyd y lliwiau traddodiadol o goch a gwyrdd ac yn eu lle cafwyd plastar o felyn cyfoglyd. Ydi, mae'r blaid wedi cael y clwy melyn. Gwyrdd fydd lliw Plaid (Cymru!) i mi hyd dragwyddoldeb, ond gwaith Wici ydy adlewyrchu'r hyn sydd allan yn fancw, yn hytrach na gosod ein barn (ein rhagfarn!) ein hunan. Efallai, felly, y dylem newid y cefndir gwyrdd sydd yn dal yma ac acw - i'r cefndir melyn cyfoglyd! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:33, 19 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Cytuno'n llwyr efo'r gosodiad!! Ond ar en mae PC dal yn wyrdd o be wela'i!--Blogdroed (sgwrs) 21:35, 19 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Senedd Cymru".