Sgwrs:Dadsensiteiddio systematig

Sylw diweddaraf: 6 blynedd yn ôl gan Dafyddt

Dyw'r term 'Dadsensiteiddio tystiolaeth' ddim yn bodoli yn y ffynhonnell a roddir. Y term sy'n cyfateb a'r disgrifiad yw 'dadsensiteiddio systematig' (Systematic desensitization) felly rwy'n awgrymu fod camgymeriad fan hyn a fod angen ail-enwi'r erthygl. --Dafyddt (sgwrs) 10:48, 22 Awst 2018 (UTC)Ateb

Mae i'w gael yn y fan yma ar wefan y geiriadur termau. Dewisia di! Sian EJ (sgwrs) 11:17, 22 Awst 2018 (UTC)Ateb
Ond dyw'r term 'Dadsensiteiddio tystiolaeth' ddim yna, dim ond 'dadsensiteiddio systematig', sydd a'r un disgrifiad. --Dafyddt (sgwrs) 12:54, 22 Awst 2018 (UTC)Ateb
Mae Dafyddt yn gywir, Sian EJ. Mae 'Dadsensiteiddio tystiolaeth' yno, ond fel term 'perthnasol', nid term gyda diffiniad. @Prosiect Wici Mon: Cytuno i newid yr enw. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:52, 23 Awst 2018 (UTC)Ateb
Mae'n ymddangos am fod yna ddiffiniad gyda'r ddau air ynddo, nid am ei fod yn derm h.y. byddai chwiliad am "tystiolaeth dadsensiteiddio" yn rhoi'r un canlyniad. Ta waeth! --Dafyddt (sgwrs) 12:23, 23 Awst 2018 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Dadsensiteiddio systematig".