Sgwrs:Dinorwig (bryngaer)

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000

Anatiomaros. Croeso nol unwaith eto. Cafwyd sgwrs sydyn y bore ma am yr atalnodi a ddefnyddiwn ar deitl (a Chategoriau). Wnei di gymryd cip ar: Sgwrs Defnyddiwr:Rhion os gweli di'n dda ble roeddem yn trafod y gwahaniaeth / cysondeb rhwng naill ai Dinorwig, bryngaer neu Dinorwig (bryngaer). Rwyt ti'n ffafrio cromfachau, mae'n amlwg. Oes angen cysondeb? Llywelyn2000 23:45, 27 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Su' mae, Llywelyn? Diolch am y croeso nol eto. Yn achos pobl a phethau cromfachau piau hi, dwi'n meddwl, ond mae'n fater o arfer a dewis yn achos lleoedd daearyddol fel pentrefi a threfi. Yr arfer gennym ar y dechrau oedd 'Enw lle (sir ayyb)' e.e. Wales (Alaska), ond mae lle i ddadlau dros y ffurf arall hefyd, e.e. Wales, Alaska. Mae angen cysondeb fodd bynnag. Dwi'n tueddu i feddwl fod yr ail (heb y cromfachau) yn edrych yn well fel enw erthygl (yn achos lleoedd). Anatiomaros 23:54, 27 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Ydy, tydy e ddim mor intrusive. Ac i fynd a'r sgwrs gam bach ymhellach.... beth am Bryngaer Dinorwig yn hytrach na Dinorwig (bryngaer) neu a ydw i'n methu unwaith eto!? (A dyma i ti fedydd tân!) Llywelyn2000 00:02, 28 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Dwi'n meddwl fod Dinorwig yn achos arbennig efallai, gan mai Dinorwig yw enw'r bryngaer yn lle 'Bryngaer Dinorwig' (daw enw'r pentre o'r hen fryngaer). Ond basa'n un ffordd o osgoi'r cromfachau yn yr achos yma, mae'n debyg. Am unwaith dwi'n tueddu i gytuno efo'r drefn ar y wici Saesneg lle ceir e.e. 'Wales, Alaska', 'Bangor, Northern Ireland' ayyb ond 'Goronwy Owen (poet)' ayyb. H.y. cromfachau yn achos pobl a phethau, yn cynnwys adeiladau a safleoedd archaeolegol, ond 'enw lle, lleoliad' yn achos trefi ayyb. Ond yn y bôn mae'n fater o arddull ac arfer, felly mi af gyda'r mwyafrif (ond yn bendant dim 'Goronwy Owen, poet' (!). Gobeithio bod y seit yn iawn rwan hefyd; mi "ddiflanodd" ryw bum munud yn ôl ac roeddwn i'n methu postio yma. Anatiomaros 00:26, 28 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Cytuno efo ti. Do fe ddiflanodd y 'Newidiadau Diweddar' - dwi wedi cael un neu ddau o bethau rhyfedd yn digwydd yn ddiweddar. Gobeithio neno'r Tad fod y cwbwl yn saff ar eu syrfyrs nhw. Basa'n beth da i Fwrdd yr Iaith wneud copi o'r un Cymraeg, rhag ofn ...! Nos da am rwan. Llywelyn2000 00:46, 28 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Dwi am roi'r gorau am heno hefyd. Gormod o bwdin, ar ôl ympryd pythefnos! Paid â phoeni am gynnwys y wici - wneiff hynny ddim diflannu, mond un o'r "glitches" parhaus efo'r servers ydy o. Mae'n dangos ein bod yn weddol boblogaidd o ran ymwelwyr, mae'n debyg. Gyda llaw, oeddet ti'n gwybod fod dolen/hysbys bach i'r wici Cymraeg ar dudalennau croeso Firefox? (yma). Anatiomaros 01:03, 28 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Diddorol! Llywelyn2000 06:06, 28 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Dinorwig (bryngaer)".