Dinorwig (bryngaer)

Bryngaer ger pentref Llanddeiniolen yng Ngwynedd yw Dinorwig neu Dinas Dinorwig. Ystyr yr enw yw 'Caer (din) yr Ordoficiaid', sy'n cyfeirio at y llwyth Celtaidd a drigai yn y rhan honno o Ogledd Cymru ar ddiwedd Oes yr Haearn ac yn y cyfnod Rufeinig.

Dinorwig (bryngaer)
Mathcaer lefal Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlOrdoficiaid Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1651°N 4.1707°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH54976530 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN017 Edit this on Wikidata

Mae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', e.e. Dinas Emrys, Dinas Cerdin; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw).

Disgrifiad

golygu
 
Dinas Dinorwig o'r gorllewin

Mae'n fryngaer 2 erw a hanner 556 metr i fyny ar fryn isel islaw Moel Rhiwen, tua milltir a hanner i'r de-ddwyrain o Landdeiniolen. Mae gweddillion cynnar eraill yn y cyffiniau yn cynnwys caer fach filltir i'r de, ger Penisa'r Waun, ac un arall dwy filltir i'r dwyrain ('Castell', ger Rhiwlas). Hefyd yn yr ardal ceir Ffynnon Cegin Arthur, hanner milltir i'r de-ddwyrain.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN017.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Codwyd yr amddiffynfa gyntaf i amgae darn o dir o siâp gellygen â'i ben meinaf tua'r gogledd gyda mur cerrig syml. Ceir mynedfeydd syml, bylchau yn y mur yn unig, yn y gogledd-orllewin a'r gogledd-ddwyrain.

Yn ddiweddarach ychwanegwyd cloddiau a ffosiau dwbl cryf tu allan i'r mur cerrig gan gau un fynedfa ond creu un newydd yn arwain i'r hen un yn y gogledd-orllewin. Yn ogystal codwyd atodiad un erw ar wahân i'r brif strwythr.

Llyfryddiaeth

golygu

Ni chloddiwyd y gaer eto, ond ceir disgrifiad llawnach ohoni yn:

  • RCAHM Sir Gaernarfon, cyfrol II, rhif 1170 (HMSO, Llundain)
  • Dr. Willoughby Gardner, adroddiad yn Archaeologia Cambriensis, XCVIII (1947), 231-48

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu