Sgwrs:Eglwys Padrig Sant, Caerdydd
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Mae'n debyg mai "Padrig" a olygir wrth "Patreg"? A be ydy ystyr "chlampiau"? Anatiomaros 17:56, 10 Medi 2008 (UTC)
A "Trerydlan" hefyd. Dim cyfeiriad ar y we nac ar en: chwaith. Anatiomaros 17:59, 10 Medi 2008 (UTC)
- Unrhyw awgrymiadau am beth i'w wneud efo hyn? Anatiomaros 14:10, 11 Medi 2008 (UTC)
- Rhag ofn iddi ddiflannu i grombil y wici dwi wedi rhoi'r nodyn "tudalen amheus" ar yr erthygl. Dau bwynt am yr eglwys: 1. Beth yn union ydy hi a ble mae hi? 2. Ydy hi'n haeddu erthygl? Anatiomaros 21:49, 12 Medi 2008 (UTC)
- Cytuno. Efallai bod ffasiwn eglwys ond mae angen rhagor o wybodaeth (ee enw'r ardal) gan y defnyddiwr, neu... bant a hi! Llywelyn2000 22:00, 12 Medi 2008 (UTC)
OK sorry for English again... It seems to be in Grangetown, see google hits. "Trerydlan" (presumably "Tre'r ydlan") seems to be the author's attempted translation for Grangetown, but there seems to be no evidence from a web search that anybody else calls it that. I see the place has a station, so I looked on the webpage of Arriva Trains Wales, and they just use "Grangetown" for both languages in their timetables, even though they have e.g. "Tregatwg" for "Cadoxton". Alan 00:19, 13 Medi 2008 (UTC)
Amserlen a chyfieithiad tros y we
golyguYchwanegwyd/Addaswyd amserlen y'r eglwyd gan rhyw rwtsh wedi ei gyfieithu tros y we. Tynnias yr amserlen ohon gan bod rhywbeth felly'n fwy addas ar wefan eu hunain - os does dim gwefan gyda nhw, nid lle'r wicipedia yw darparu gwybodaeth fel hyn (yn fy marn i!)--Ben Bore 20:22, 20 Ebrill 2009 (UTC)
- Dwi'n cytuno. Dilynais y ddolen ryngwici i'r erthygl Saesneg ac wedyn i'r erthygl en:St Mary of the Angels R C Church, Canton, wedi'i chreu gan yr un awdur, sy'n wynebu cael ei dileu am ddiffyg amlygrwydd. Mae'r enghreifftiau ar 'en' yn awgrymu mai hunangyhoeddusrwydd ydy hyn yn y bôn yn lle awydd i gyfrannu erthyglau addas i wyddoniadur (cynnwys amserlen y gwasanaethau ayyb). Eglwys neu beidio, mae'n ddigywilydd braidd! Rhaid i ni gael nodyn Amlygrwydd i roi ar dudalennau fel hyn (mae gennym Wicipedia:Amlygrwydd i gyfeirio ato o'r nodyn, ond mae angen gwaith arno). Anatiomaros 21:14, 20 Ebrill 2009 (UTC)
- Heb os, hunagyhoeddusrwydd yd'r erthygl (rhywbeth dw i wedi bod yn feirniadol ohono yn y gorffenol - efallai mod i'n mynd yn soft!) Yn sicr does dim byd yn nodedig am yr eglwys hyd y gwyddwn i yn hanesyddol na'n bensaerniol. Wedi dweud hynny, mae sal erthygl am gapeli a gyda sawl un a diffyg amlygrwydd - mae Tabernacl, Caerdydd yn edrych yn un hunan hyrywddo, yn brolio pa mor 'hyfryd' ydy hyn a'r llall am yr adeilad, gwaith dyngarol y gweinidog a nifer aelodau. Er bod capeli'n 'bwysicach' (?) yn hanes a diwylliant Cymraeg (a Chymreig), dylwn drin capeli ac eglwysi yr un fath.
- Yn sicr bydd rhaid i ni weithio ar feini prawf 'Amlygrwydd'--Ben Bore 07:41, 21 Ebrill 2009 (UTC)
- Diolch am yr ymateb, Ben. Dwi wedi creu Nodyn:Amlygrwydd ac wedi dechrau ehangu'r dudalen wici Wicipedia:Amlygrwydd, ond gwaith brysiog iawn oedd o ac mae 'na lawer i'w wneud eto (ond mae'n well na chael dim tudalen o gwbl!). Dwi ddim yn credu fod gennym ni na'r amser na'r angen, ar hyn o bryd, i fod mor fanwl â'r wici Saesneg gyda'i ganllawiau hir a thechnegol, ond mae hyn yn ymwneud â raison d'être sylfaenol erthyglau ar Wicipedia ac mae'n rhaid i ni osod canllawiau clir. I ddod nôl at yr eglwys yma. Wnes i dynnu llwyth o stwff - rhestr hir o wasanaethau ayyb - o'r erthygl ar 'en:' ac roeddwn i'n teimlo fel ychwanegu nodyn amlygrwydd hefyd. Dwi'n methu gweld unrhyw ddiddordeb hanesyddol na phensaernïol yn yr eglwys ac yn fy marn i dyna'r unig reswm dros gynnwys adeilad yn y wici. Dwi ddim yn siwr am y Tabernacl yng Nghaerdydd. Mae angen glanhau'r erthygl ond ar y llaw arall os cafodd ei godi yn yr 1820au mae'n bosibl fod tipyn o hanes iddo ac efallai rhyw amlygrwydd pensaernïol hefyd - ond heb wybod dim amdano fedra'i ddim barnu! Canllawiau sydd ei angen, fel ti'n ddeud. Mae'n amlwg fod eglwys hynafol fel Eglwys Penmynydd yn haeddu lle yma, ond mae'n amlwg hefyd nad oes lle i bob eglwys a chapel yn y wlad, heb sôn am weddill Prydain a'r byd! Anatiomaros 15:21, 21 Ebrill 2009 (UTC)