Capel y Bedyddwyr Cymraeg, Tabernacl, Caerdydd

capel y Bedyddwyr yng Nghaerdydd

Mae Capel y Bedyddwyr Cymraeg, Tabernacl yn gapel Cristnogol sydd wedi bod yn gwasanaethu Bedyddwyr Cymraeg yng nghanol Caerdydd ers 1821.[1] Cafodd y capel ei ymestyn ym 1865, ac mae'n dal bron i 1,000 o addolwyr.[2] Ceir ffenestri lliw ar hyd y capel gan gynnwys dwy ffenestr o fedydd yr Iesu gan Goodwin Lewis a chopi o'r Swper Olaf gan Leonardo Da Vinci. Yn 1907 gosodwyd organ newydd gan gwmni Griffiths & Stroud o Gaerfaddon.[2]

Capel y Bedyddwyr Cymraeg, Tabernacl, Caerdydd
Matheglwys, capel Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1865 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliadcanol dinas Caerdydd, Castell, Caerdydd Edit this on Wikidata
SirCaerdydd, Castell, Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr10 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4785°N 3.17617°W Edit this on Wikidata
Cod postCF10 1AJ Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Gweinidogion golygu

Ers 1821 bu 11 o weinidogion yno, sef y Parchgn. Griffith Davies, Robert Pritchard, Christmas Evans, David Jones, Charles Davies, J. William Hughes, Myrddin Davies, Raymond William a Denzil John. Y gweinidog ers 2022 yw'r Parch. Ddr Risa Hunt.

Llyfryddiaeth golygu

  • Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.53–4

Cyfeiriadau golygu

  1. Taflen Wybodaeth Leol Caerdydd 19[dolen marw] oddi ar wefan capeli.org.uk (Saesneg)
  2. 2.0 2.1 Wooding, Jonathan M (Awst 2011). A guide to the churches and chapels of Wales. Gwasg Prifysgol Cymru (Saesneg)

Dolen allanol golygu