Sgwrs:Eisteddfod
Sylw diweddaraf: 12 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Pantyfedwen
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Pa Eisteddfod yw Celf a chreft. Cyfeirio at babell celf a chreft yr Eisteddfod Genedlaethol a wneir??
Dyfrig 13:04, 1 Med 2004 (UTC)
Beth sy'n mynd ymlaen?
golyguRwy'n credu ei bod hi'n warthus bod yr erthygl hon yn llai na'r fersiwn Llydaweg.
- Croeso i chi ei hehangu... Luke 17:06, 5 Chwefror 2010 (UTC)
- Ond cofiwch mai erthygl (annigonol) am eisteddfodau yn gyffredinol ydy hyn - dilynwch y dolenni i gael yr erthyglau am y Steddfod Genedlaethol ac eraill. Ac os ydy'r erthygl yn "warthus" cofiwch mai criw bychan o wirfoddolwyr sy'n cynnal y Wicipedia ac sy'n trio ysgrifennu erthyglau am bopeth dan haul. Fel mae Luke yn deud, basai'n braf cael eich cyfraniadau chi os ydych yn teimlo fel cyfrannu. Anatiomaros 17:16, 5 Chwefror 2010 (UTC)
Pantyfedwen
golyguMae penawd yn yr erthygl hon Eisteddfod Pantyfedwen - Llanbedr Pontsteffan. ond mae'r disgrifiad yn sôn am Eisteddfod Pantyfedwen Pontrhydfendigaid. Eisteddfodau Pantyfedwen y gelwir y ddwy rwyn meddwl am eu bod yn cael eu hariannu yn rhannol o leiaf o Gronfa Pantyfedwen, Syr David James. Sut mae orau i dacluso hyn? Dyfrig (sgwrs) 14:57, 9 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Ti'n iawn, mae na waith ehangu a chywiro ar y paragraff hwn! Erthygl gyfan arni ryw dro. Ble mae cychwyn? Efo ffynhonnell dibynadwy! Yn ara deg a bob yn dipyn... - Llywelyn2000 (sgwrs) 23:14, 9 Rhagfyr 2012 (UTC)