Sgwrs:Etholiad Cyngor Gwynedd, 2004

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Diwygiadau


Diwygiadau golygu

Diolch am y gwaith ardderchog ar hyn a'r erthyglau etholiad eraill. Ond mae sawl pwynt yn codi. Dwi wedi gwneud sawl diwygiad i'r dolenni oedd yn y testun. Rhaid bod yn ofalus efo wardiau sy'n dwyn enwau fel "Dewi", er enghraifft; hefyd mae 'na ward "Arllechwedd" sydd ddim yr un peth o gwbl â hen gantref/ardal Arllechwedd. Dwi hefyd wedi cael gwared o'r mwyafrif llethol o'r dolenni coch am gynghorwyr - hyd yn oed pe bai rhywun eisiau creu'r erthyglau amdanynt fedra'i ddim gweld sut mae cynghorwr lleol a gafodd 70 o bleidleisiau - a hynny unwaith yn unig efallai - yn haeddu lle ar y wicipedia (mae 'na eithriadau wrth gwrs - dwi wedi gadael ambell enw cyfarwydd fel Seimon Glyn, er enghraifft). Yn olaf, yn swyddogol dydi Gwynedd ddim yn "sir" fel y cyfryw: dewisodd y cyngor gael ei adnabod dan yr enw Cyngor Gwynedd a dyna'r enw swyddogol, nid "Cyngor Sir Gwynedd". Anatiomaros 20:04, 7 Mai 2008 (UTC)Ateb

ON Am y pwynt olaf. Pe bai'n ddarllen "Etholiad cyngor sir Gwynedd" buasai'n dderbyniol efallai, ond mae "Etholiad Cyngor Sir Gwynedd" yn rhoi'r argraff bod "Cyngor Sir Gwynedd" yn rheoli "Sir Gwynedd", sydd ddim yn wir... Anatiomaros 20:08, 7 Mai 2008 (UTC)Ateb

Mae dy sylwadau yn ddigon teg, croeso i ti ail enwi'r erthyglau i rhywbeth mwy addas, mi wnai beidio a rhoi cymaint o ddolenni yn y nesaf felly. Ro'n i'n meddwl fuasai'n syniad da cael yr erthyglau am yr etholiadau lleol yma gan nad yw nhw iw cael ar y wiki Saesneg hyd yn oed (heblaw un neu ddau) ond mae llawer o rai Lloegr ar yr ochr Saesneg. Yr unig beth dwi'n gofyn yw i ti adael i mi gwblhau'r erthygl cyn gwneud newidiadau rhag ofn byddwn i'n gweithio ar draws ein gilydd ac yn colli gwaith. Dau erthygl Gwynedd wedi ei orffen dwi'n meddwl. Diolch. Thaf 08:23, 8 Mai 2008 (UTC)Ateb

Diolch am yr ymateb. Pwyntiau "technegol" fel petai yw'r rhain, efallai, ond yn bwysig er hynny, dwi'n credu. Ac mae'n braf gweld yr erthyglau 'ma. Fel ti'n ddeud, mae 'na lot o rai tebyg ar y wicipedia Saesneg ond mae Cymru'n cael ei hesgeuluso (dim byd newydd fan 'na!). Wna'i ddim ymyryd yn yr erthyglau eraill, ond dwi am symud hyn a'r un arall am Wynedd i "Etholiad Cyngor Gwynedd....". Dwi'n meddwl daru nhw ddewis "Gwynedd" yn hytrach na "Sir Gwynedd"/"Sir Wynedd" am resymau gwleidyddol - mae 'na hanes am hynny taswn i'n medru ffindio ffynhonnell yn lle dibynnu ar fy nghof! Diolch eto am dy gyfraniadau. Anatiomaros 17:33, 8 Mai 2008 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Etholiad Cyngor Gwynedd, 2004".