Gwleidydd o Ben Llŷn sy'n adnabyddus am amddiffyn cymunedau Cymraeg yw Seimon Glyn (ganed 1959). Mae'n frodor o Nefyn yn Llŷn.

Seimon Glyn
Ganwyd1959 Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni a'i fagu yn Nefyn mewn cyfnod pan fu'r dref honno a'r rhan helaeth o fro Llŷn bron â bod yn gymdeithas uniaith Gymraeg. Ymunodd â Phlaid Cymru yn 1973, yn 13 oed. Daeth yn gynghorydd Plaid Cymru ar gynghor Gwynedd, yn cynrychioli ward Tudweiliog.

Daeth Seimon Glyn i amlygrwydd cenedlaethol yn 2001 gyda'r helynt a gododd ar ôl iddo ddatgan ei farn mewn cyfweliad ar Radio Cymru am effaith y mewnlifiaid ar gymunedau Cymraeg Pen Llŷn a rhannau eraill yn y Fro Gymraeg. Dywedodd fod diwylliant cynhenid Cymru o dan fygythiad oherwydd nad oedd mewnfudwyr o Saeson yn barod i ddysgu Cymraeg, a honnodd fod y Saesneg yn iaith estron ym Mhen Llŷn, a mynodd y dylai pobl ifanc leol gael blaenoriaeth yn y maes tai dros bensiynwyr o Loegr. Ymhlith y bobl a'i alwodd yn hiliaethwr bu Glenys Kinnock, gwraig Neil Kinnock, a Janet Street-Porter, colofnydd The Independent on Sunday. Ond cafodd gefnogaeth frwd gan sawl person yng Nghymru gan gynnwys llythrau a gasglwyd a chyhoeddwyd yn Awst 2001 yn y llyfr Llythyrau at Seimon Glyn gan Y Lolfa.

Ar 20 Hydref 2007, ymddeolodd y Cynghorydd Seimon Glyn o grŵp rheolaethol y Blaid ar Gynghor Sir Gwynedd mewn protest yn erbyn polisi arfaethedig y cyngor o gau 29 o ysgolion lleol bychain yng Ngwynedd. Mae Cymuned hefyd wedi beirniadu'r cynllun yn hallt fel bygythiad difrifol i ddyfodol yr ychydig gymunedau cynhenid Gymraeg sy'n weddill.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Simon Brooks (gol.), Llythyrau Seimon Glyn (Y Lolfa, 2001). Gyda rhagymadrodd gan y golygydd a hanes helynt 2001 gan Seimon Glyn, ynghyd â cherddi a detholiad o lythyrau o gefnogaeth. ISBN 0-86243-596-X