Sgwrs:Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan

Sylw diweddaraf: 2 fis yn ôl gan Llygadebrill ym mhwnc Tresaith

Tresaith

golygu

@Stefanik ydy "Gwersyll Tresaith" yn enw amgen ar y lle? Os felly fedri di ychwanegu brawddeg yn egluro pam, o ystyried bod Tresaith rhyw 17 milltir o'r gwersyll os dw i'n deall yn iawn! Diolch! Llygad Ebrill (sgwrs) 16:57, 17 Medi 2024 (UTC)Ateb

oh diawl, typo arall. Wedi newid. Dilch.
Gyda llaw, beth sy'n bod efo'r erthygl ar Colandr? Wedi gwneud man newidiadau. Os yw pobl am newid enw'r teclyn i hidlydd neu hidlwr, dwi'n ddigon hapus (er fod hynny'n rhy generic i mi, ac mae colandr' yn Geiriadur yr Academi). Ond digon hapus i eraill newid, dim barn gref. Oedd problem arall? Stefanik (sgwrs) 08:22, 18 Medi 2024 (UTC)Ateb
Diolch! Diolch am ddiwygio Colandr hefyd, dw i newydd dreulio 5 munud arno a thynnu'r nodyn Llygad Ebrill (sgwrs) 11:43, 18 Medi 2024 (UTC)Ateb
diolch. Gyda llawn, gan dy fod yn deall y pethe yma yn well 'na fi. Dwi wedi ychwanegu cynnwys i C.P.D. Merched Tref Aberystwyth. Mae wedi ei ddolenni'n saff i'r fersiwn Saesneg (falch o ddweud fod y fersiwn Gymraeg yn helaethach!). Ond wrth fynd ar y dudalen Saesneg ac yna clicio ar "Cymraeg" mae'n mynd i dudalen Clwb Pêl-droed (dynion) Aber. Mae fel bod y dolenni i gyd yn gywir yn y Wikidata ond bod y ddolen o'r dudalen Saesneg yn mynd i dudalen arall. Syniad be' sy'n bod? Stefanik (sgwrs) 09:04, 23 Medi 2024 (UTC)Ateb
Roedd popeth yn gywir ar wikidata ond mae'r erthygl ar en: https://en.wikipedia.org/wiki/Aberystwyth_Town_Ladies_F.C. yn cynnwys dolenni i'r ieithoedd eraill yn y cod am ryw rheswm (fel yr hen system yma flynyddoedd yn ôl) - dw i newydd ei diweddaru. Llygad Ebrill (sgwrs) 11:49, 23 Medi 2024 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan".