Colandr

Offer cegin siâp powlen a ddefnyddir i hidlo hylif i lanhau llysiau neu ffrwythau neu wedi berwi bwyd.

Teclyn cegin sy'n cael ei ddefnyddio i hidlo bwydydd fel pasta neu i lanhau llysiau wedi eu berwi neu cyn coginio yw colandr (lluosog: colandrau)[1]. Mae natur dyllog y colandr yn caniatáu i hylif ddraenio trwyddo tra'n cadw'r solidau y tu mewn. Gellir hefyd galw'r teclyn yn hidlydd neu'n hidlen[1], neu'n llestr diferu[2] ond gall y termau yma gyfeirio at fathau eraill o gogr hefyd, tra bo'r term Saesneg colander yn fwy penodol[3]. Tueddir i ddefnyddio rhidyll ar gyfer offeryn gyda rhidyllau mwy mân megis i rhidyllu blawd.

Colandr
Mathoffer coginio Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Disgrifiad a hanes

golygu

Yn draddodiadol, mae colandrau yn cael eu gwneud o fetel ysgafn, fel alwminiwm neu ddur di-staen. Mae colandrau hefyd wedi'u gwneud o blastig, silicon, serameg ac enamel.[4]

Daw'r gair colandr o'r Lladin colum, sy'n golygu rhidyll.[3]

Mathau

golygu
 
Pot colandr wedi'i baru yn dangos y colandr wedi'i fewnosod yn llawn yn y pot gwaelod, a'i godi ychydig allan ohono
  • Siâp bowlen neu gôn – y colandr traddodiadol
  • Pot colandr paru[5]

Defnyddiau

golygu
 
Colandr blastig

Gwneir colandr o ddefnydd, gan ddibynnu ar y cyfnod, gwlad a phris.

  • Hidlyddion plastig - ers ail hanner yr 20g, mae colandrau cartref yn aml wedi'u gwneud o ddeunydd plastig sy'n rhad i'w cynhyrchu.
  • Hidlyddion metel - cyn dyfodiad plastig, colandrau metel oedd y norm. Ar gyfer mwy o wydnwch, cawsant eu gorchuddio ag enamel. Heddiw, ar gyfer defnydd proffesiynol ac yn gynyddol mewn cartrefi, mae dur di-staen yn cael ei ffafrio. Gallant fod o alwminiwm, neu ddur di-staen.
  • Deunyddiau planhigion - yn Siapan, ceir hidlydd bambŵ a elwir yn zaru. Yn y Maghreb, ceir hidlyddion glaswellt a elwir yn esparto, a ddefnyddir yn arbennig ar gyfer paratoi cwscws traddodiadol.
  • Crochenwaith - cynhyrchwyd colandrau o grochenwaith hyd at yr 20g. Ceir enghraifft o "Dysgl hidlydd saim cig gyda phatrwm trosglwyddo 'Rio'" o grochendy yn Ynysmeudwy ger Pontardawe sy'n dyddio o 1820-1860. Efallai na fyddai rhai pobl yn ystyried hwn yn enghraifft o 'colandr'.[6]

Mae'r colandr yn deillio o'r rhidyllau a'r hidlyddion cyntaf o'r cyfnod Etrwsgaidd ac yna'r cyfnod Rhufeinig (colum), wedi'i wneud i ddechrau o offer wedi'u gwneud o gynfas, teracota ac yn ddiweddarach copr a ddefnyddir yn y gegin i straenio gwahanol fathau o fwyd, gan gynnwys gwin neu lysiau. Mae'r dystiolaeth Eidalaidd gyntaf o declyn a wnaed i ddraenio pasta, fodd bynnag, yn dyddio o 1363 ac yn ymwneud â'r c'aza lasagnaria', math arbennig o letwad tyllog a gyflenwir i'r lasagnari, neu wneuthurwyr pasta ar fwrdd galïau (llongyau hwylio) Gweriniaeth Genoa.[7]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Colander". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 3 Medi 2024.
  2.  https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?llestr%20diferu. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 18 Medi 2024.
  3. 3.0 3.1 "colander". merriam-webster.com. Merriam-Webster. 2011. Cyrchwyd 23 May 2022.
  4. "Colander". CooksInfo.com. 15 October 2010. Cyrchwyd 30 November 2012.
  5. "Mated Colander Pot". justcooking.in. Cyrchwyd 23 May 2022.
  6. "Colander". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 3 Medi 2024.
  7. Corrado Barberis, Mangitalia. La storia d'Italia servita in tavola, Donzelli Editore, Roma, 2010, pag.58
  Eginyn erthygl sydd uchod am goginio. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.