Sgwrs:Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig

Beth sydd ddim yn y Gwyddoniadur golygu

Dw i wedi dileu'r canlynol:

Prin iawn yw'r sôn am dechnoleg gwybodaeth megis y we, ffonau symudol neu ddatblygiadau gwyddonol cyfoes mewn maesydd megis genynnau, lasers ayb.

gan mai gwyddoniadur am Gymru ydy Gwyddoniadur Cymru, nid un cyffredinol. (Er efallai gelli'r fod wedi nodi pa Gymro oedd y cyntaf i brynnu ffôn symudol). Ond gall y rhestr o beth sydd ddim ynddo fod yn un maith iawn.

Mae sawl un wedi beiriniadu cynnwys y gwyddoniadur o fod yn ormodol tuag at 'y pethe' neu o safbwynt cenedlaetholgar (Cymrieg), sydd efallai'n feiriniadaeth deg.

Dywedais, 'Prin iawn yw'r sôn am:
'technoleg gwybodaeth' (er enghraifft, gwaith arloesol y Cymro Donald Watts Davies
'ffonau symudol' (er enghraifft byrfoddau neges-destyn Cymraeg megis sglch am 'os gwelwch yn dda')
'genynnau' (er enghraifft yr Athro Steve Jones (biolegydd) o Aberystwyth)
'lasers' (er enghraifft, prif feithrinfa'r datblygiadau diweddaraf yn y maes lasers drwy Wledydd prydain ydy Optic yn Llanelwy.
ayb ayb ayb
Tydy'r gair 'Cyfrifiadur' ddim yn y Gwyddon-iadur chwaith! Llywelyn lll 13:53, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb
Mae'r rheiny'n omeddiadau (y gair Cymraeg am 'omissions' dw i newydd ffeindio!) difrifol, dw i'n cytuno - a doeddwn i ddim yn ymwybdool amdanynt chwaith. Yn sirc mae rhwybeth fel hyn rhywbeth a elli'r ei godi wrth geisio darbwyllo CBAC/Athrawon efallai am werth y Wicipedia?
Dw i'n meddwl byddai adran am feiriniadaueth o'r Gwyddoniadur yn addas ar gyfer yr erthygl, ond dw i'n meddwl dylid cyfeirio ar ffynonellau eraill a nid dim ond rhestru beth dwyt ti ddim hoffi am y Gwyddoniadur (er mod i'n cytuno 100%), neu efallai ei eirio'n wahanol.--Ben Bore 15:29, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb
Cytuno cant y cant. Bwriwch ati! Anatiomaros 15:45, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb


BenBore ydy'r mwyaf diplomyddol / gofalus ei ddewis doeth o eiriau, felly... diolch am gynnig! Yn y cyfamser mi sgwenna i am gysylltiadau Cymreig Neges Destun a Lasers rhag ein bod ninnau'n ddiffygiol! Llywelyn lll 18:35, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb
Ie, sori digon o siarad, mi wnai geisio helaethu arno.--Ben Bore 08:07, 23 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb

Geirio'r beirniadaeth + trefn yr erthygl golygu

Dw i wedi symud ychydig o bethau o gwmpas cyn ychwanegu aty yr erthygl, ond efallai dylid newid trefn pethau eto. Dw i ddim yn 100% hapus gyda sut dw i di geirio'r adran beirniadaeth. Rhaid i mi gyfaddef nad ydw i wedi darllen y gyfrol, ond dw i wedi darllen adolygiad sy'n crybwyll y ffordd mai John Davies yn sôn am dirfeddianwyr mewn modd sy'n bell o fod yn ddi-duedd - mae'n siwr byddwn yn cytuno â fo, ond nid dyna yw pwynt gyddoniadur! Ond tydw i eto i ddod o hyd i'r adolygiad.--Ben Bore 09:27, 23 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb

Rhestr erthyglau nad ydynt yn y Gwyddoniadur? golygu

Dim son yn y Gwyddoniadur am y Cytundeb Tridarn anrhaethol bwysig. Onid ydy hi'n bryd i ni hel yr erthyglau sydd gennym ar Wici - NAD ydynt yn y Gwyddoniadur at ei gilydd? Neu a ydy hyn yn ormod o dasg!!? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:34, 4 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Gormod o dasg o lawer, dwi'n meddwl. Anodd gwybod lle i ddechrau! Anatiomaros (sgwrs) 00:43, 6 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig".