Sgwrs:Helynt Brewer Spinks
Sylw diweddaraf: 16 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros ym mhwnc Digon nodedig?
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Digon nodedig?
golyguOes na bwynt i'r "erthygl" hon? Ydi rhywun yn debyg o'i ehangu o gwbl? Anatiomaros 01:12, 7 Mawrth 2007
- Nid wyf wedi clywed am y pwnc hwn o'r blaen, ond chwilias y we ac mae rhai cyfeiriadau at yr helynt fel sbardun sefydliad Undeb y Gymraeg, ac mae'n debyg bod y band Tystion wedi enwi cân ar ôl y dyn, ond ni chefais hyd i unrhyw ddeunydd defnyddiol i ehangu'r erthygl. Awgrymaf cadw'r dudalen am y tro yn y gobaith bod mwy o wybodaeth gan eraill i'w hychwanegu. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 21:15, 7 Mawrth 2007 (UTC)
- Y broblem ydi nad oes yna ddim manylion (ar y we beth bynnag) am Brewer Spinks ei hun, mae'r cyfeiriadau at Brewer Spinks Ltd. Porius1 21:23, 7 Mawrth 2007
- Dyna roeddwn i'n amau. Mae'r achos / anghydfod yn un peth ond y dyn ei hun? Anatiomaros 21:30, 7 Mawrth 2007 (UTC)
- Dylem ni symud y dudalen i "Helynt Brewer Spinks Ltd." neu rywbeth tebyg felly: unrhyw awgrymiadau eraill am deitl? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 21:32, 7 Mawrth 2007 (UTC)
- Iawn gen fi. Anatiomaros 21:33, 7 Mawrth 2007 (UTC)
- Dwi'n cywirio'r teitl. Rheolwr y ffatri oedd Spinks, yn gweithio i gwmni o Loegr. Gobeithio fod "Helyn Brewer Spinks" yn dderbyniol. Anatiomaros 18:32, 17 Rhagfyr 2007 (UTC)