Sgwrs:Mingreleg

Sylw diweddaraf: 4 mis yn ôl gan Stefanik ym mhwnc Problemau

Problemau

golygu

Da gweld mwy o erthyglau am ieithoedd y byd @Stefanik! Sgen i ddim amser i ddarllen yr erthygl gyfan heddiw, ond dw i'n gweld bod angen gwaith ar yr agoriad:

  • Brawddeg 1: cangen ddeuehol beth?
  • Gwallau cod a teipio
  • Hoel cyfieithu ar bethau fel "Wedi'i siarad gan tua 500,000 o frodorion..."
  • Angen cysoni enwau ieithoedd o leiaf o fewn yr erthygl ac yn ddelfrydol i gyd-fynd efo e.e. Georgeg, Sfaneg
  • Sioraidd = yn perthyn i gyfnod y brenin Siôr, dim y wlad. Af ati i symud Yr wyddor Sioraidd rŵan

Llygad Ebrill (sgwrs) 10:19, 14 Awst 2024 (UTC)Ateb

Diolch, af ati nawr. Ie, mae Sioreg yn broblemus - dyma'r enw arno eisoes. Dwi ddim yn hoff o 'Georgeg' chwaith - unai Jorjieg, neu Georgeg gyd 'g' nid 'j' ond yna 'da ni'n dweud Georgia yn y ffordd Saesneg. Cefais broblem hefyd efo ieithoedd Cartfeleg (rhywun wedi creu tudalen 'ieithoedd Carfelaidd' yn rhywle - dwi wir ddim yn siŵr am -eg neu -aidd). Diolch am ddiolch ac am nodi pwyntiau teg. Siôn Stefanik (sgwrs) 20:01, 14 Awst 2024 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Mingreleg".