Sgwrs:Rhestr o ddramodwyr Cymraeg

Latest comment: 7 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000

Gyda phob parch, oes pwynt cynnal yr erthygl yma tra bod Categori:Dramodwyr Cymraeg yn bodoli? Dw i' argymell ein bod ni'n ailgyfeirio'r erthygl. --Oergell (sgwrs) 22:49, 31 Mai 2016 (UTC)Ateb

Mae'r un peth yn wir am Rhestr actorion Cymreig, Rhestr ffilmiau Cymraeg a rhai eraill tebyg. Roedd pwrpas iddyn nhw ar un adeg, i ddechrau erthyglau egin i bob un ond mae nhw'n boen bellach. Bosib hefyd fod cynhyrchu'r rhestr o Wikidata yn haws i rai pethau. --Dafyddt (sgwrs) 23:09, 31 Mai 2016 (UTC)Ateb
Does na ddim dynodwr ar Wicidata ar gyfer diddordeb -> Dramodydd; gweler Gwenlyn Parri, gan mai ei waith bob dydd oedd sgriptio, ac nid sgwennu dramau. Dw i'n gweld pwrpas i restr o'r fath, pe bae na fwy o fanylion na jyst enw; hy mwy o wybodaeth na sydd yn y categori. Ond er nad oes pwrpas i'r rhestr fel ag y mae ar hyn o bryd, efallai y caiff ei gwella, rwan mae Oergell wedi crybwyll ei gwendidau! Gyda llaw, roedd gan Saunders Lewis yn Wicidata ddynodwr 'Genre' -> Drama. felly dw i wedi creu'r un peth ar gyfer Gwenlyn. Os gallwn wneud hyn ar gyfer pawb yn y Categori 'Dramodwyr', wedyn, digon hawdd fydd defnyddio hwn i greu rhestr. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:44, 3 Mehefin 2016 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Rhestr o ddramodwyr Cymraeg".