Sgwrs:Roedd Catarina o Gwmpas Ddoe
Sylw diweddaraf: 1 mis yn ôl gan Paulpesda ym mhwnc Sillafu
Sillafu
golyguDiolch am yr holl erthyglau difyr @Paulpesda! Cwestiwn bach, mae'r sillafiad CatErina (yn hytrach na CatArina fel yn y teitl a'r llun) yn ymddangos yn un o'r dyfyniadau ac yn y rhestr camgymeriadau - gwall copïo oedd hynny, neu ydy'r ddau sillafiad i'w cael yn y ddrama ei hun? Hefyd, beth yw'r rhesymeg dros yr "O" fawr yn y teitl? Cofion, Robin aka Llygad Ebrill (sgwrs) 15:49, 21 Medi 2024 (UTC)
- Diolch. Catarina yw'r fersiwn cywir gan Rhydderch Jones, fel ar glawr y ddrama. Mae sawl gwall yn enwau'r dramâu Cymraeg yn y Wasg yn y cyfnod dan sylw. Yr un gorau yw Hywel Haf am y ddrama Hywel A! Mae lot o'r hunangofiannau yn camsillafu enwau a'r dramâu, felly ceisio glynu at y testun sy'n cael ei ddyfynu ydwi, gan amla. O ran yr 'O' fawr! O'n i'n meddwl mai gosod prif lythyren ymhob gair testunol oedd y patrwm? Dyna dwi wedi sylwi ar sawl erthygl yn Gymraeg a Saesneg. Ond yn hapus i blygu i bwy bynnag sy'n gywir! Diolch PP (aka PG) Paulpesda (sgwrs) 16:14, 21 Medi 2024 (UTC)