Sgwrs:System gyhyrol

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Thaf

Gwres canol nid gwres canolig sy'n naturiol ac yn un â theithi'r iaith. Does dim rhaid cael ansoddair (fel a wneir yn y Saesneg) pob tro; yn wir, mae'r ystyr yn llawer cliriach hefyd o gadw'r enw yn hytrach na'r ansoddair. Weithiau mae'r berfenw'n gwbwl dderbyniol e.e. system atgenhedlu - gobeithio nad oes neb am ei gam-gyfieithu yn 'system atgenhedlol'! A system tenau iawn fyddai 'system ysgerbydol'!

Yn ail, gwelaf fod nifer o systemau'r corff, bellach yn cael eu newid o fod yn system (casgliad o bethau)i fod yn UN organ o fewn y sytem. Mae 'na wahaniaeth rhwng system cyhyrau â chyhyrau, fel sydd rhwng system ysgerbwd ac ysgerbwd. Mae'r system cyhyrau'n cynnwys y canlynol, fel y gwelir yn yr erthygl anatomeg ddynol:

  • system cyhyrau: ar y cyd gyda'r system ysgerbwd, angori'r gewynnau gwahanol, enwau'r esgyrn a'u pwrpas, eu ffurf a'r modd y cant eu creu.

Mae angen dwy erthygl wahanol.

Llywelyn2000 23:35, 5 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

Dwin cytuno fod angen dwy erthygl arwahan, gweler Cyhyr a oedd yn bodoli'n barod, mae cwpl o'r erthyglau rwyt ti wedi dechrau yn edrych fel petai nhw'n cyfeirio at yr un pwnc. Angen gwneud yn siwr nad oes pethau'n cael eu dyblu. Haws o lawr os wyt ti'n defnyddio'r erthyglau Saesneg fel pwynt cychwyn dwi'n credu, a cynnwys y dolen rhyngwici fel bod pobl yn gallu dy helpu os ydi pethau'n aneglur. Ddim eisiau sathru ar dy waith di, ond roedd yn well neidio i mewn ar y cychwyn tro hwn na gadael i ti wario oes pys ar erthygl oedd yn bodoli'n barod odan enw gwahanol. Cytuno nad oes rhaid cael ansoddair ym mhob achos, ond mae'n aml yn gwneud mwy o synnwyr.
Cyfieithu'r erthygl Saesneg yw'r ffordd hawsaf i osgoi dryswch dwi'n credu, gan nad ydy neb ohonon ni yn arbennigwyr ar anatomeg am wn i... Fel arall bydd rhaid ffeindio ffynonellau newydd a creu llawer mwy o waith na sydd angen, dylai'r pwyslais fod ar cael yr wybodaeth yn Gymraeg yn hytrach na sgwennu popeth o'r dechrau a defnyddio strwythr gwbl wahanol i'r erthyglau on principle! Mae hefyd yn ddefnyddiol i bobl allu neidio i erthygl mewn iaith arall gyda phyciau cymleth os nad ydynt yn gwbl hyderus yn y Gymraeg, fel arall bydden nhw gennyn nhw ddim amynedd edrych yma yn y lle cyntaf. Thaf 08:54, 6 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "System gyhyrol".