System gyhyrol
System anatomegol rhywogaeth, sy'n ei alluogi i symud yw'r system gyhyrol. Rheolir y system gyhyrol mewn anifeiliaid ag asgwrn cefn gan y system nerfol, ond mae rhai cyhyrau (megis y cyhyr cardiag) yn gallu bod yn gwbl ymreolaethol.
Math | casgliad o gyhyrau, endid anatomegol arbennig |
---|---|
Rhan o | musculoskeletal system |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhybudd! | Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon. Beth am fynd ati i'w chywiro? Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol. |
Cyhyrau
golygu- Prif: Cyhyr
Mae tri math gwahanol o gyhyrau, sef cyhyr ysgerbydol, cyhyr anrhesgog a cyhyr cardiag.
Cyhyr ysgerbydol
golygu- Prif: Cyhyr ysgerbydol
Mae ffibrau cyhyrau ysgerbydol yn amlgnewyllog, lleolir cnewyllyn pob cell ychydig o dan y bilen plasma. Caiff y gell ei gyfansoddi o gyfres o myoffibrilau streipïog neu rhesog tebyg i edau. O fewn pob myoffibril, mae ffilamentau protein sydd wedi eu angori gan linell tywyll siap Z. Mae'r ffibr yn strwythur di-dor hir yn debyg i edau. Gelwir y croes doriad lleiaf o gyhyr ysgerbydol yn sarcomere, mae hwn yn uned gweithredol o fewn y cell. Mae'n ymestyn o un llinell Z i'r nesaf. Mae gan pob sarcomere unigol ffilamentau protein, sydd yn myosin trwchus a actin tenau bob yn ail. Mae myosin yn ffurfio canol pob llinell M. Mae ffilamentau teneuach actin yn ffurfio patrwm zig zag ar hyd y pwyntiau angori, neu'r linell Z.
Pan fydd cyffroad gan arwaith potensial, mae cyhyrau ysgerbydol yn perfformio cyfangiad ar y cyd, drwy fyrhau pob sarcomere. Y model gorau sydd wedi cael ei grybwyll ar gyfer deall y cyfangiad hwn yw'r model ffilamentau'n llithro o gyfangiad cyhyr. Mae'r ffibrau actin a myosin yn gorgyffwrdd mewn symudiad cyfangol tuag at ei gilydd. Mae gan ffibrau myosin bennau siap pastwm sy'n ymestyn tuag at y ffilamentau actin.
Defnyddir y strwythurau mwy sydd ar hyd y ffilamentau myosin, a elwir yn bennau myosin, i gyflenwi pwytiau cysylltu safleoedd rhwymo ar gyfer y ffilmentau actin. Mae'r pennau myosin yn symyd ar y cyd, gan droi tuag at canol y sarcomere, maent yn datgysylltu ac yna yn ail-gysylltu gyda safle gweithredol agosaf y ffilament actin. Gelwir hyn yn system yrru o fath clicied dannedd. Mae'r broses hyn yn defnyddio llawer o adenosine triphosphate (ATP).
Daw'r egni ar gyfer gwneud hyn o ATP, sef ffynhonnell egni'r gell. Mae ATP yn rhwymo i'r croes bontydd rhwng y pennau myosin a'r ffilamentau actin. Mae rhyddhad yr egni yn pŵeru troad y pen myosin. Dim ond ychydig o ATP mae'r cyhyrau yn ei storio, felly mae'n rhaid ailgylchu'r moleciwl adenosine diphosphate (ADP) sy'n cael ei ryddhau yn y broses, gan ei droi'n ôl i ATP yn gyflym. Mae meinwe'r cyhyr yn cynnwys cyflenwad wedi ei storio, o gemegyn sy'n ailwefru'n gyflym, creatine phosphate, sy'n cynorthwyo'r cynnyrchiad cychwynnol o ail-droi ADP yn ATP.
Mae angen ïonau calsiwm ar gyfer pob cylchred y sarcomere. Caiff calsiwm ei ryddhau o'r sarcoplasmic reticulum i'r sarcomere pan gaiff ei ysgogi i gyfangu. Mae'r calsiwm yn datguddio'r safleodd rhwymo actin. Pan nad yw'r cyhyrau angen cyfangu mwy, caiff yr ïonau calsiwm au pwmpio o'r sarcomere yn ôl i gael eu storio yn y sarcoplasmic reticulum.
Anatomeg
golyguMae tua 639 o gyhyrau ysgerbydol mewn corff dynol, ame hyn yn cyfansoddi hanner màs ein corff. Dyma rhai o'r prif gyhyrau a'u nodweddion sylfaenol:[1]
Gweithgaredd cyhyr aerobig ac anaerobig
golyguMae'r corff yn cynhyrchu y rhanfwyaf o'r ATP pan fydd yn gorffwyso, cynhyrchir hyn yn aerobig yn y mitochondria[2] heb gynhyrchu asid lactig nag unrhyw gynnyrch arall sy'n achosi blinder.[3] Yn ystod ymarfer corff, mae'r modd o gynhyrchu ATP yn amrywio, gan ddibynnu ar faint mor heini yw'r ungolyn, yn ogystal â hyd a dwyster yr ymarfer corff. Pan fydd lefelau is o weithgaredd, pan mae'r ymarfer corff yn parhau am gyfnod hir (sawlmunud neu fwy), bydd yr egni ATP yn dal i gael ei gynhyrchu yn aerobig gan gyfuno ocsigen gyda'r carbohydradau a'r brasterau sy'n cael eu storio yn y corff. Pan fydd lefel dwyster uwch o weithgaredd (bydd hyd y gweithgaredd yn lleihau pan fydd y dwyster yn cynyddu), gall cynhyrchiad ATP gael ei newid i ffurf anaerobig, megis defnyddio creatine phosphate a'r system phosphagen, neu glycolysis anaerobig.
Mae cynhyrchiad aerobig ATP yn fio-cemegol yn llawer arafach na chynhyrchiad anaerobig, felly gellir ei ddefnyddio ar pan fydd gweithgaredd hir dwyster isel yn unig, ond nid yw'r broses hyn yn cynhyrchu cemegion sy'n achosi bliner na ellir eu tynnu o'r sarcomere a'r corff yn syth bin, ac felly mae cymhareb llawer mwy o foleciwlau ATP i pob moleciwl braster a carbohydrad. Mae ymarfer aerobic yn galluogi i'r system dosbarthu ocsigen fod yn fwy effeithlon, gan gyflymu metabolaeth aerobic.[3] Mae cynhyrchiad anaerobig ATP yn cynhyrchu ATP yn llawer cynt, ac yn galluogi gweithgaredd sydd bron ar y lefel mwyaf posib o ddwyster, ond mae hefyd yn cynhyrchu llawer o asid lactig sy'n achsi blinder, ac yn ei wneud yn amhosibl i gynnal y lefel yma o weithgaredd am fwy na chwpl o funudau.[3]
Mae'r system phosphagen hefyd yn anaerobic, ac yn galluogi leflelau uchel o weithgaredd, ond ddim ond hyn a hyn o phosphocreatine gaiff ei storio yn y corff ac felly gall ond cyflenwi egni ATP gan ddefnyddio'r broses hyn am hyd at ddeg eiliad. Mae adferiad yn sydyn, a caiff y cyflenwad creatine ei atgynhyrchu o fewn pum munud os bydd y corff yn gorffwys.[3]
Cyhyr Cardiag
golygu- Prif: Cyhyr Cardiag
Mae cyhyrau cardiag yn wahanol i cyhyrau ysgerbydol oherwydd fod ffibrau'r cyhyr yn cstylltu gyda'i gilydd yn ochrol. Ac, yn debyg i cyhyrau anrhesog, nid ydynt yn cael eu rheoli'n wirfoddol. Caiff cyhyrau'r galon eu rholi gan y nod sinws, sydd yn cael ei ddylanwadu gan y system nerfol awtonomig.
Cyhyr Anrhesog
golygu- Prif: Cyhyr Anrhesog
Rheolir cyhyrau anrhesog yn uniongyrchol gan y system nerfol awtonomig. Maent yn anwirfoddol, sy'n golygu nad ydynt yn gallu cael eu symud yn ymwybodol. Mae cyhyrau sy'n rholi curiad y gaol a'r ysgyfaint hefyd yn gyhyrau anwirfoddol, ond nid ydynt yn gyhyrau anrhesgog.
Rheolaeth cyfangiad cyhyrau
golyguY pwynt lle mae niwron moduro yn cysylltu gyda cyhyr yw cyswllt niwrogyhyrol. Trawsyrrydd niwrol a ddefnyddir mewn cyfangiad cyhyr ysgerbydol yw acetylcholine, a caiff ei ryddhau o derfynfa axon cell y nerf pan fydd potensial arwaith yn cyrraedd y cyswllt mocrosgopaidd a elwir yn synaps. Mae grŵp o negeswyr cemegol yncroesi'r synaps ac yn ysgogi ffurfiad newidiadau trydanol, sy'n cael eu cynhyrchu yng nghelloedd y cyhyr pan mae'r acetylcholine yn rhwymo gyda'r derbynyddion ar ei arwyneb. Caiff calsiwm ei ryddhau o storfa'r cell yn y sarcoplasmic reticulum. Mae ysgogiad o cell y nerf yn achosi un cyfangiad cyhyr byr a elwir yn blwc cyhyr. Os oes problem yn y cyswllt niwrogyhyrol, gellir cyfangiad hirfaith ddigwydd, sef tetanws. Bydd colled gweithriediad yn y cyswllt yn gallu achosi parlys.
Ffynonellau
golygu- (Saesneg) Online Muscle Tutorial Archifwyd 2006-07-11 yn y Peiriant Wayback, "Medical and Health Encyclopedia", pennod 1
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) List of major muscles of the human body Archifwyd 2008-12-19 yn y Peiriant Wayback
- ↑ ABERCROMBIE M; HICKMAN C.J; JOHNSON M.L, 1973, A Dictionary of Biology, Tud. 179, Middlesex (Lloegr), Baltimore (U.D.A.), Ringwood (Awstralia): Penguin Books
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 St Paul’s College Stage 2 EXERCISE PHYSIOLOGY Energy Systems Part 5 (ppt).
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) GetBody Smart Tiwtorialau'r system gyhyrol a phosau
- (Saesneg) MedBio.info Archifwyd 2011-02-05 yn y Peiriant Wayback Defnydd a ffurfiad ATP mewn cyhyr