Sgwrs:Tabl cyfnodol

Latest comment: 10 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Eisiau Gwella Tudalenni'r Elfennau

Tabl cyfnodol golygu

Gofyniad golygu

Beth yw'r enw a rodir ar electronau sy'n cael eu rhannu rhwng atomau?

Wyt ti'n meddwl am bondiau cofalent, neu yn syml 'electronau rhanedig'? Mae'r electronau mewn atomau a rhwng atomau yn unfath felly nid oes angne term penodol ychwanegol Myrddin1977

Ar goll golygu

Pam y mae 73 a 103 ar goll? Ac os ydynt, yna pwy all newid y nodyn? Llywelyn2000 05:00, 14 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

Symud y tabl golygu

Dwi wedi symud y tabl i "/Y Table" (h.y., Tabl Cyfnodol/Y Tabl), jyst rhag ofn i fandaliaid yn dod a dinistrio'r gwaith ardderchog. Hefyd, mae'n "safio" lle ar yr erthygl ei hun. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 23:47, 18 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

Glenn, mae Tabl Cyfnodol/Y Tabl yn cael ei gyfrif fel erthygl. Oes modd rhoi'r cynnwys rhywle arall (ac wedyn medraf ei ddileu)? Dwi'n meddwl byddai estyniad i'r dudalen hon yn iawn, neu roi'r cynnwys yma am rwan. Anatiomaros 14:50, 19 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Hm, ti'n iawn. Doeddwn i ddim yn meddwl am hynny o gwbl! Dwi ddim yn gwybod lle arall rydym yn gallu ei gadw. Efallai rydym yn gallu trosglwyddo'r tabl i Sgwrs:Tabl Cyfnodol/Y Tabl i osgoi Wici yn ei drin fel erthygl. Wyt ti eisiau gwneud fe neu fi? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 16:59, 19 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Sdim gwahaniaeth, ond cyn creu'r dudalen rhaid i mi ofyn a oes angen y briflythyren 'T'? Llythrennau bychain sydd gan y wicis eraill. Dim isio symud pethau eto heb raid. Baswn i'n awgrymu symud hyn i Tabl cyfnodol [ailgyfeiriad ar hyn o bryd] ac wedyn creu Sgwrs:Tabl cyfnodol/Y Tabl. Ydy hynny'n taro'n iawn? Sdim brys arbennig beth bynnag.
Hefyd, dwi wedi trwsio ambell ddolen goch yn y tabl trwy ailgyfeiriad. Efallai fod erthyglau eraill gennym hefyd sydd ddim yn cysylltu o'r tabl? Nid cemeg yw fy mhwnc... :-) Anatiomaros 21:09, 19 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
ON Mae Grŵp 16 yn ddolen goch: 'Chalcogen'. Swnio'n uffernol yn Gymraeg. Oes term gwell? 'Sialcogen' efallai? Wyt ti neu Lywelyn yn gwybod? Anatiomaros 21:13, 19 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Nac oes, 'sdim angen y 't' i fod yn briflythyren. Roedd yn edrych yn well fel'na, ond oherwydd nod y darllenwyr ddim yn cael gweld e (jyst y tabl ei hun yn yr erthygl), 'sdim ots sut rydym yn ei eirio. Yr yn peth gyda'r 'c,' ac dwi hefyd yn cefnogi dy awgrymiad (Sgwrs:Tabl cyfnodol/Y Tabl). Dwi hollol ar goll gyda chemeg ta waith, felly nai eich gadael iddi, ha! -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 22:36, 19 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Drap! Dydy hynny ddim yn gweithio chwaith. Y peth gorau ydy rhoi'r nodyn isod am rwan a dileu'r "erthygl". Anatiomaros 23:03, 19 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Iawn nawr. Dwi wedi'i symud i Sgwrs:Tabl cyfnodol/Tabl, ac mae'r erthygl yn cysylltu i'r ddolen 'na. Wrth roi cynnig ar "Tabl" yn y bar chwilio, mae Tabl Cyfnodol/Y Tabl yn dangos o hyd (dyw e ddim yn dangos fel erthygl fel yr un arall!). Efallai os nid yw'n datrys ei hun, gallwn ni roi ailgyfeiriad i'r erthygl ynddi? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 16:28, 20 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
W. Mae'n edrych fel maen nhw wedi mynd o'r bar chwilio! -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 16:29, 20 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Rhyfedd. Efallai fod y meddalwedd yn cymryd sbel i ddal i fyny? Diolch am ddatrys hyn beth bynnag. Gyda llaw, dydy'r nodyn ddim yn gweithio (uchod) am ryw reswm. Anatiomaros 19:29, 20 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Ie, siŵr o fod. Efallai dyw e ddim yn gweithio gan ei fod yn cynnwys cod ar ei ddechrau yn lle geiriau ayyb. Mae'n gweithio'n normal yn ei hun, felly 'sdim angen gwneud dim byd gyda fe. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:00, 20 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Ydy o'n gweithio i ti? Y cwbl dwi'n gweld ar ôl clicio 'dangos' ydy hyn: {{{2}}}. Anatiomaros 21:11, 20 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

Nac ydy, dyw e ddim yn gweithio fan hyn, ond fel arall mae'n gweithio ar dudalennau sydd yn ei ddefnyddio. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:19, 20 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

Diweddariad golygu

Dw i ar ganol diweddaru'r tabl i'r un cyfredol. Ychwanegwch eich newidiadau ar yr un [yma]. Diolch. Llywelyn2000 22:52, 29 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

Diolch i ti, Llywelyn. Oes gan Bruce gynnig am chalcogen (gw. uchod)? Anatiomaros 23:19, 29 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Calsiwm ! Llywelyn2000 05:18, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Y tabl cyfnodol newydd golygu

Mae'r tabl yn edrych yn wych! Un awgrym yw newid lliw y ffont coch, gan ei fod yn edrych fel na bai dolen. Mae hyn yn ddiffyg hefyd efo'r un Saesneg, fodd bynnag. Diolch!

Un peth arall: dw i wedi trio arbrawf bychan, sef newid y rhif 15 i "Ar":

  • Elfen Grŵp 15|Ar
    jest er mwyn gweld a fyddai'n cael effaith ar y tabl, ond dydy e ddim! Cymorth plis.

Ysgol Dinas Bran 07:34, 5 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb


Eisiau Gwella Tudalenni'r Elfennau golygu

Mae hwn (Tabl Cyfnodol Dynamig) yn edrych fel adnodd grêt ac mae'n cysylltu at dudalennau yma ar Wicipedia. Bechod nad oes llawer iawn o wybodaeth ar lawer ohonynt. Dw i yn codi sylw i'r ffaith ar ôl dod ar draws y gwefan heno. --Cymrodor (sgwrs) 15:34, 25 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

Diddorol iawn! A'r wybodaeh yn cael ei dynnu o Wici-cy! O! Na boed 48 awr mewn un diwrnod a chwart mewn pot peint! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:53, 26 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Tabl cyfnodol".