Sgwrs:Treiglad
Dw'i wedi creu taflenni am dreigladau yr ieithoedd Celtaidd. Efallai bydden nhw'n ddefnyddiol am y tudalen hon? Dw'i ddim am rhoi nhw i mewn heb siecio yn gyntaf, o achos bod nhw'n fawr. Mae nhw i weld ar gv:Boggaghys (treiglad meddal), gv:Ennalaghey (grammeydys) (treiglad llaes), gv:Stronnaghys (treiglad trwynol), gv:Creoiaghey (treiglad caled) as gv:Ceaghley mestit* (treiglad cymysg). Dwi'n credu bod mwy i i'wneud ar yr erthygl Ceaghley mestit. Os byddech chi'n eu eisiau nhw, dwi'n medru ei cyfiethu nhw. Rhoi neges i fi ar y Wici Manaweg, os gwelwch chi'n dda. -- Shimmin Beg 20:01, 21 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Wow, mae'n edrych yn ardderchog, Shimmin Beg! Croeso i ti ychwanegu nhw yma (gweler hefyd: Treiglad meddal, Treiglad llaes, Treiglad trwynol). Anatiomaros 20:07, 21 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Esgusodwch, mi adaeles i dipyn o Fanaweg ar ben y dudalen. Diolch i Ben Bore. -- Shimmin Beg 15:06, 22 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Dim problem. Diolch i ti am y gwaith ardderchog a diolch i Ben hefyd am arbed i mi y gwaith o fynd dros yr ychwanegiadau! Anatiomaros 15:41, 22 Gorffennaf 2009 (UTC)
Treigladau yn Gymraeg
golyguRwy'n cytuno â JosephBw: roedd problem fawr yn y paragraff hwn:
Mae cytsain cyntaf rhai geiriau yn y Gymraeg yn newid pan fônt yn dilyn geiriau fel 'i', 'yn' neu 'a'; gallant hefyd newid oherwydd cyd-destun gramadegol y frawddeg. Gall gair fel 'gardd' newid i 'ardd': h.y. mae'r 'g' yn diflannu, sy'n peri i'r cymal fod yn fwy llyfn, yn llai clogyrnaiddNodyn:Ffaith neu farn o ran sain; mae 'Tyrd i'th ardd! yn llifo'n fwy llyfn na 'Thyrd i dy gardd!'[angen ffynhonnell]
Ond nid mater o "Angen ffynhonnell" yw hyn. Mae'n gwbl anwyddonol ac anhanesyddol. Does yr un ieithydd erioed wedi dweud y fath beth.
Ac mae'r canlynol yn gwbl anghywir:
Mae'r llythyren a dreiglir bron yn ddieithriad yn meddalu gydag enwau benywaidd neu wrth gyfeirio at y ferch. Er enghraifft, pan fo'r gair 'coes' yn newid i 'fy nghoes' mae 'sain' caled yr 'ec' yn tawelu, neu'n meddalu gan droi'n 'ng' gyddfol.
Mae'n amherthnasol a yw'r gair "coes" yn fenywaidd neu'n wrwaidd yn y cyd-destun hwn!
Mae'r pwnc hwn yn haeddu esboniad llawnach gan rywun sydd â gafael ar ieithyddiaeth hanesyddol. --Craigysgafn (sgwrs) 15:17, 4 Gorffennaf 2024 (UTC)