Sgwrs:Ynysoedd y Gwylanod

Latest comment: 10 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Cyfuno?

Cyfuno? golygu

Mae'r erthygl Ynys Gwylan-fawr yma yn barod. Mae'n ynys fechan iawn ond mae Ynys Gwylan-fach yn llai byth. Beth am gyfuno'r tudalennau? Anatiomaros (sgwrs) 21:44, 3 Ionawr 2014 (UTC)Ateb

Gan fod Wici'n fwy na Gwyddoniadur - yn wyddoniadur arlein - mae ei photensial yn aruthrol, a does dim rhaid cyfyngu i feincnodau gwyddoniadur papur. Yn ychwanegol at hyn, mae na enw Cymraeg yn bodoli, mae'n endid ffisegol gyda chyfesurynnau gwahanol, gweladwy, fel sydd gan ei chwaer fawr 'Ynys Gwylan-fawr'. Fy awgrym i ydy cadw'r ddwy. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:28, 7 Ionawr 2014 (UTC)Ateb
Digon teg. Pe bai Ynys Gwylan-fach yn fwy na chraig yn y môr baswn i ddim wedi codi'r cwestiwn yn y lle cynta. Ond fel ti'n deud, "mae'n bod" ac felly'n haeddu erthygl, mae'n debyg. Anatiomaros (sgwrs) 23:50, 7 Ionawr 2014 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Ynysoedd y Gwylanod".