Sgwrs Categori:Diweddiadau rhaglenni teledu'r 20fed ganrif

Sylw diweddaraf: 23 diwrnod yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Teitl

Teitl

golygu

Onid 'Rhaglenni teledu a ddaeth i ben...' ddylai hwn fod? Tydy 'Diweddiadau rhaglenni...' ddim yn gwneud synnwyr i mi o gwbwl. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:11, 6 Tachwedd 2024 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000: Mae'n eithaf lletchwith, onid e? (Dydw i ddim yn or-hoff o "Cyflwyniadau rhaglenni teledu ..." chwaith.) Nid yw'r Saesneg ("20th-century television series endings") yn llawer gwell – hollol aneglur. Mae'r Sbaeneg yn debyg i'th ddatrysiad ("Series de televisión finalizadas en el siglo XX") ac mae hynny'n cael ei gysylltu â "Series de televisión iniciadas en el siglo XX" ("Rhaglenni teledu a ddechreuodd yn yr 20fed ganrif"), a byddwn i'n o blaid y fersiynau hynny (sef, "a ddaeth i ben"/"a ddechreuodd"), ar sail eu bod yn cyfleu yn union beth a olygir. Ond mae yna oblygiadau i'r categorïau "Cyflwyniadau" eraill. Beth yw barn @Adda'r Yw:, tybed? Craigysgafn (sgwrs) 11:54, 6 Tachwedd 2024 (UTC)Ateb
Cytuno bod "a ddaeth i ben" ac "a ddechreuodd" yn well, ar gyfer rhaglenni teledu o leiaf. Efallai y dylem penderfynu ar ba ffurf i ddewis am "gyflwyniadau" a "diweddiadau" eraill ([Pethau] a gyflwynwyd/gychwynwyd/ddechreuwyd/ymddangosodd/ddaeth i'r amlwg/ac ati, [Pethau] a ddaeth i ben/derfynwyd/ddiflannodd/ac ati) fesul tro, am fod y categorïau ar wicis eraill yn cynnwys pob math o bethau, rhai a grewyd gan fodau dynol (gweithiau deallusol, cynnyrch, dyfeisiau) ac eraill a ymddangosodd mewn cymdeithas ond heb eu priodoli i unigolyn (geiriau, arferion diwylliannol, traddodiadau). —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 21:30, 6 Tachwedd 2024 (UTC)Ateb
Gret! Dim o'i le yn y gair 'Pethau' / 'things' fel mae'r 'Internet of things' wedi dangos. Reit avant garde pan ddaeth y term i olau dydd, ond yn norm bellach. Y symlaf ydy'r geiriad, y mwyaf o'n darllenwyr sy'n mynd i'w ddallt. Mae'r cyfan yn dy restr wedi'u creu gan fodau dynol ('a grewyd' + 'a ddaeth i ben'), a dw i'n licio dy awgrym 'Pethau a grewyd', ond mae unrhyw un o'r lleill yn agos! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:04, 10 Tachwedd 2024 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Diweddiadau rhaglenni teledu'r 20fed ganrif".