Croeso cynnes i ti! A diolch am dy gyfraniadau. Sylwaf dy fod wedi newid yr enw "Howell Harris" i "Hywel Harris"; dw i wedi cychwyn trafodaeth ar hyn yn y caffi: yn fama. Baswn yn gwerthfawrogi dy farn a'th sylwadau'n fawr iawn. Diolch. Llywelyn2000 05:59, 12 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb

Welaist ti'r sgwrs yn y Caffi ynglyn a'th newidiadau ar dudalen Hywel Harris? Mae sgwrs i'w weld [Sillafu enwau: dilyn y bywgraffiadur? yma] Llywelyn2000 06:36, 16 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb
Dw i wedi dadwneud dy olygiadau yn unol â'r sgwrs yn y Caffi, gan na wnest amddiffyn dy olygiadau. Awgrymaf, y tro nesaf, dy fod yn codi'r mater yn y caffi neu'r dudalen Sgwrs berthnasol cyn mynd ati i olygu. Os wyt ti'n dal i gredu'n gry ynglyn â newid yr enw o Howell i Hywel, yna awgrymaf dy fod yn dadlau dy ochr gyda'r Llyfrgell Genedlaethol, gan mai dilyn eu horgraff nhw yden ni'n ei wneud. Llywelyn2000 07:49, 18 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb

Taiwan - a phwysigrwydd y dudalen SGWRS i drafod golygu

Troist ddwy dudalen yn ôl, heb drafodaeth: dileu'r Ailgyfeirio o Gweriniaeth Tsieina i Taiwan a dileu'r Infobox Country o'r erthygl ar Taiwan. Mae Sgwrs wedi bod ynghylch hyn ar dudalen Sgwrs:Taiwan, a mi fasa wedi bod yn wych pe taet wedi rhoi ymuno yn y sgwrs - a rhoi dy resymau dros dy newidiadau ar y dudalen honno'n gyntaf, gan fod y newid mor fawr a sgwrs wedi bod yn ei gylch. Dydw i ddim yn awdurdod ar Daiwan, ac efallai fod fy newidiadau (a'r hyn sydd ar Wikipedia-en) yn anghywir. A mi fydda i'r cyntaf i newid nhw'n ol os hynny. Ond plis: trafoda yn gyntaf yn null arferol Wicipedia, ac yna'u newid. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:17, 8 Gorffennaf 2012 (UTC)Ateb